Cronfa'r Degwm

Dyddiad cau: 22 Mai, 2026

Mae Gronfa’r Degwm yn deillio o Ddeddf Eglwysi Cymru 1914 (o dan Ddeddfau’r Degwm 1914 – 1945 a Deddf Llywodraeth Leol (Cymru) 1993). Mae Cyngor Gwynedd yn gweinyddu’r gronfa ac yn dosbarthu llog o’r gronfa ar ffurf grantiau yn flynyddol i elusennau cofrestredig yng Ngwynedd.

Beth ydi pwrpas y gronfa?

Pwrpas Cronfa’r Degwm yw hyrwyddo a chefnogi gweithgareddau gan sefydliadau elusennol sydd o fudd i drigolion Gwynedd, ac yn cyfoethogi cymunedau Gwynedd.

Y bwriad yw galluogi’r sector wirfoddol i chwarae rôl gyflawn yng nghymunedau Gwynedd drwy adlewyrchu un neu ragor o’r amcanion canlynol:

(i) Hybu gwybodaeth a gwerthfawrogiad o gelfyddydau a llenyddiaeth Cymru

(ii) Darparu neu gynorthwyo i ddarparu cyfleusterau ar gyfer adloniant neu weithgarwch amser hamdden arall;

(iii)  Hybu diddordeb pensaernïol, hanesyddol neu wyddonol sy’n ymwneud a Chymru

 

Pwy all geisio am y grant?

Gall elusennau cofrestredig geisio am y grant hwn o Gronfa Degwm Cyngor Gwynedd, gan gynnwys:

  • eisteddfodau lleol
  • gweithgareddau celfyddydol
  • mudiadau addysg
  • mudiadau hamdden a chwaraeon
  • mudiadau cadwriaethol
  • elusennau sy’n cefnogi pobl wael neu bob anabl


Faint o arian sydd ar gael?

Croesawir ceisiadau hyd at £5,000.00.

Lle rhoddir grant, ni fydd y gronfa yn ystyried ceisiadau am gymorth gan yr un corff am gyfnod o 3 mlynedd o ddyddiad y cais blaenorol.

 

Canllawiau 

  • Mae Cronfa’r Degwm yn gronfa o arian cyfalaf a refeniw.
  • Rhaid i bob grant fod mewn cytgord â Chynllun Elusennol Cronfa Degwm Cyngor Gwynedd. 
  • Mabwysiwyd canllawiau pellach er mwyn diffinio meysydd a mathau o ymgeisydd a fydd yn debygol o dderbyn ystyriaeth, er y gall  Panel Ymgynghorol Grantiau Cist Gwynedd (sydd bellach yn penderfynu ar geisiadau) wneud eithriadau mewn achosion teilwng sydd y tu allan i’r canllawiau arferol ond sydd mewn cytgord â’r Cynllun Elusennol.

Dylid sicrhau bod y ffurflen gais wedi ei chwblhau a bod yr holl ddogfennau cefnogol a thechnegol angenrheidiol wedi eu derbyn erbyn y dyddiad cau perthnasol.

Byddwn yn anelu i asesu a chymeradwyo ceisiadau o fewn 6 wythnos i’r dyddiad cau.

Rydym yn hapus i dderbyn ceisiadau am lai na £1,000 ar unrhyw adeg, a byddwn yn anelu i brosesu ceisiadau o’r fath o fewn 4 wythnos gwaith os bydd cyllid ar gael.

Disgwylir i geisiadau fod yn seiliedig ar gynlluniau neu wasanaethau newydd sydd yn cyflawni amcanion pendant ac amlwg.

Gweithgareddau Celfyddydol a Llenyddol:

  • Sefydlu / ail-gyflenwi llyfrgelloedd, amgueddfeydd, orielau neu arddangosfeydd celfyddydol, gwyddonol neu ddiwydiannol.
  • Darparu darlithoedd, arddangosfeydd ac offer (Ni allwn dalu costau darlithwyr sydd yn uwch na chyfanswm o £200).
  • Caffael, cadw a chyhoeddi archifau a dogfennau.
  • Prosiectau sydd yn ymwneud a llenyddiaeth, celfyddydau llwyfan, celfyddydau cain, llenyddiaeth a/neu gerddoriaeth (Ni allwn ariannu costau artistiaid sydd yn uwch na chyfanswm o £200).

Gweithgareddau Hamdden, Cymdeithasol ac Adloniant:

  • Darparu neu gynorthwyo i ddarparu meysydd chwarae, parciau, lleoedd agored, canolfannau neu neuaddau ar gyfer gweithgareddau hamdden.
  • Darparu offer (ar gyfer gweithgareddau newydd yn unig).
  • Costau hyfforddiant i wirfoddolwyr (Hyfforddiant mandadol ddim yn gymwys).
  • Costau yn gysylltiedig a gweithgareddau newydd ar gyfer pobl hyn/pensiynwyr.

Gweithgareddau Hanesyddol:

  • Sicrhau a chadw tir neu wrthrychau sydd o ddiddordeb arbennig mewn perthynas â gwyddoniaeth pensaernïaeth neu hanes naturiol
  • Prynu, trwsio, diogelu, dehongli a/neu arddangos creiriau
  • Darparu cyfleusterau neu gyfleoedd addysgol ym myd hanes/treftadaeth
  • Cefnogi astudiaeth ac ymchwil i bynciau sy’n gysylltiedig â hanes, topograffeg, llenyddiaeth a bywyd Cymru
  • Gwaith cynnal a chadw ar adeiladau sydd wedi rhestru neu sydd heb eu rhestru ond gyda chysylltiadau hanesyddol neilltuol
  • Deunydd dehongli ar gyfer adeiladau o ddiddordeb hanesyddol a/neu bensaernïol

  • Ni roddir grantiau tuag at weithgareddau crefyddol neu sectyddol, nac at adnoddau a ddefnyddid yn bennaf ar gyfer y gweithgareddau hynny.
  • Ni fydd grant yn cael ei roi ar gyfer gwaith cynnal a chadw arferol a rheolaidd adeiladau nac i gynnal gweithgareddau/gwasanaethau arferol neu barhaol.
  • Ni ystyrir ceisiadau oddi wrth Bapurau Bro.
  • Ni chaniateir ceisiadau personol na cheisiadau er budd unigolion yn uniongyrchol.
  • Ni chaniateir grant er mwyn cynnal swydd.
  • Ymweliadau tramor
  • Gweithgareddau addysgol statudol
  • Ni ellir ariannu artistiaid na chostau gwesteion sydd yn uwch na chyfanswm o £200

  • Ni ellir ariannu costau gwahoddedigion digwyddiadau

Ystyrir ceisiadau am grant oddi wrth elusennau cofrestredig yn unig.

Mae’n rhaid cyrraedd y meini prawf canlynol os am geisio am arian drwy’r gronfa:

  • Rhaid bod yn elusen gofrestredig sydd wedi ei leoli neu yn gweithredu o fewn Gwynedd;
  • Ni all eich mudiad ddosbarthu elw;
  • Rhaid i’ch mudiad fod a statws cyfreithiol a chyfansoddiadol;
  • Rhaid i’ch mudiad fod a strwythur rheoli clir;
  • Rhaid i’ch mudiad gael sustem rheolaeth ariannol glir;
  • Bod ag egwyddorion gweithredol sydd yn cyd-fynd a deddfwriaeth ar gyflogaeth, iechyd a diogelwch, cydraddoldeb i weithwyr a gwirfoddolwyr;
  • Dangos dealltwriaeth ac ymrwymiad i gydraddoldeb yn gysylltiedig â mynediad, iaith, diwylliant, rhyw a materion ethnig;
  • Yn meddu ar amcanion a nodau sydd yn cyd-fynd a gweithgareddau ariannir drwy’r grant yma;
  • Dangos bod grwpiau ac unigolion eraill yn yr ardal yn cefnogi’r gweithgaredd/cynllun;
  • Rhaid dangos bod egwyddorion gwerth am arian wedi eu dilyn wrth ddatblygu, gweithredu a rhedeg y cynllun, megis eich bod yn dilyn y Cyfarwyddiadau Gwahodd Prisiau (gellir cael copïau gan Swyddfa Cist Gwynedd) ar gyfer y gwaith/gwasanaeth, yn enwedig yn y cynlluniau cyfalaf;
  • Bod egwyddorion gweithredol yn eu lle sydd yn cyd-fynd a deddfwriaeth amddiffyn plant ac oedolion bregus. Os mai hyrwyddo crefydd yw prif nod eich grŵp, cysylltwch ag Swyddog Cist Gwynedd.

Os mai hyrwyddo crefydd yw prif nod eich grŵp, cysylltwch â Swyddog Cist Gwynedd

Bydd yn ofynnol ar bob cynllun a gymeradwyir i gydymffurfio â thelerau ac amodau’r gronfa. Mewn rhai amgylchiadau gellir gosod amodau arbennig ar gynllun.

 

Gwneud cais

Gellir gwneud cais ar gyfer Gronfa’r degwm drwy lenwi’r ffurflen gais pwrpasol. Mae’n bwysig eich bod yn dilyn y cyfarwyddiadau yn ofalus ac yn sicrhau bod eich cynllun yn ymateb i’r canllawiau a’r meini prawf.

  1. Llenwi'r ffurflen gais / Fersiwn Word
  2. E-bostio i: Cistgwynedd@gwynedd.llyw.cymru

Dyddiad cau: Mai 22, 2026. 

Dylid sicrhau bod y ffurflen gais wedi ei chwblhau a bod yr holl ddogfennau cefnogol a thechnegol angenrheidiol wedi eu derbyn erbyn y dyddiad yma.

Byddwn yn anelu i asesu a chymeradwyo ceisiadau o fewn 6 wythnos i’r dyddiad cau. 

 

Cysylltu â ni

Mae Swyddogion Cefnogi Cymunedau Cyngor Gwynedd ar gael i gynnig arweiniad i chi. Awgrymir yn gryf y dylid cysylltu gyda Swyddog i drafod y cynllun cyn ymgeisio. 

Gellir cysylltu a’r Swyddogion drwy e-bostio; Cefnogicymunedau@gwynedd.llyw.cymru

 

 

Neu am unrhyw wybodaeth arall, cysylltwch â Swyddog Cist Gwynedd: