Cronfa Rhandiroedd
Mae Cronfa Rhandiroedd 25/26 bellach wedi cau am geisiadau.
 
Mi fydd yn rhaid i’r prosiect fod wedi ei gwblhau erbyn Chwefror 27ain, 2026.
Grant Cyfalaf Rhandiroedd
Rydym yn gwahodd ceisiadau am arian grant tuag at gynlluniau rhandiroedd sy’n cyflawni’r blaenoriaeth o;
- greu rhandir(oedd) newydd
 
neu
- Dod â hen randir(oedd) yn ôl i ddefnydd
 
Bydd hefyd bosibl gwneud cais am arian tuag at un neu fwy o’r canlynol:
- Gwella mynediad i randiroedd
 
- Gwella cyfleusterau a gwasanaethau ar randiroedd
 
- Gwella diogelwch safle randiroedd
 
- Gwella ailgylchu ar randiroedd
 
- Gwella bio-amrywiaeth ar randiroedd
 
- Hyrwyddo a chodi ymwybyddiaeth o randiroedd.
 
Gall eitemau gwariant cymwys gynnwys y canlynol (ond nid yw hwn yn rhestr cynhwysfawr):
- Cyfalaf - deunyddiau adeiladu / ffensys / giatiau / arwyddion
 
- Cyfalaf - offer mawr megis siediau, tŷ gwydr, polytunnels, storfeydd, casglwr dŵr
 
- Cyfalaf - gwaith adeiladu a paratoi tir
 
Faint?
Mi rydym yn derbyn ceisiadau hyd at £5,000
 
Pwy?
Gwahoddir geisiadau gan grwpiau cymunedol, elusennau, cynghorau cymuned a thref, a mudiadau gwirfoddol.
 
Sut i wneud cais:
Mae Cronfa Rhandiroedd 25/26 bellach wedi cau am geisiadau.
 
Mae Swyddogion Cefnogi Cymunedau Cyngor Gwynedd ar gael i gynnig arweiniad i chi.
Dalgylch Bro Lleu/Nantlle, Bro Peris, Bro Ffestiniog a Penrhyndeudraeth
Dalgylch Caernarfon, Bangor, Bro Ogwen a Porthmadog
Dalgylch Penllŷn a Pwllheli  
Bro Ardudwy, Dalgylch Dolgellau a Bro Dysynni
Dalgylch Bala Penllyn, Dinas Mawddwy a Rhydymain
 
 
Cysylltu â ni
Gallwch gysylltu a Swyddog Cist Gwynedd: