Canllawiau Cronfa Hybiau Cefnogi Pobl Gwynedd


1. Beth yw’r Gronfa Hybiau Cefnogi Pobol Gwynedd?

 

1.1 Mae Cyngor Gwynedd wedi sefydlu cronfa refeniw, gyda cefnogaeth ariannol Llywodraeth Cymru, ar gyfer cefnogi Hybiau sy’n cefnogi trigolion yn eu hardaloedd.

 

1.2 Prif nod y grant yw cefnogi trefniadau lleol a fydd yn ein galluogi i:

 

Deall anghenion a gwneud y gorau o asedau lleol, gwneud cysylltiadau, gwneud perthnasau a chyd-gynhyrchu datrysiadau yn y gymuned er mwyn i bobl fedru byw bywyd da

 

Mae gan Hybiau Cefnogi Pobl mewn cymunedau gyfraniad i’w wneud i gyflawni’r weledigaeth hon sef –

 

  • Gefnogi unigolion a chymunedau i ymdopi gyda heriau bywyd
  • Datblygu ffyrdd newydd o weithio
  • Cyd-weithio gyda partneriaid lleol a gwasanaethau
  • Symleiddio mynediad pobl i help a gwasanaethau

 

Mae’r trefniadau lleol hyn yn hybiau/ canolfannau galw mewn neu debyg; yn cydlynu / tynnu ynghyd cefnogaeth mewn ardal ddaearyddol (ar draws grwpiau, sefydliadau, mudiadau); ac yn hwyluso mynediad i help a gwasanaethau yn lleol, ac i weithgareddau ar draws yr ardal gan nifer o bartneriaid.  

 

1.3 Dylai’r trefniadau lleol hyn fod yn benodol ar gyfer cyflawni’r nodau canlynol :

 

- darparu / mynediad lleol i wybodaeth a cyngor ar ystod o faterion;

- cyfeirio a cysylltu trigolion bregus i wasanaethau a gweithgareddau;

- darparu help ymarferol i drigolion o bob oed;

 

1.4 Dylai’r ‘hybiau’ lleol hyn fod yn darparu mynediad i help ar ystod o faterion, ond yn benodol

-          Tlodi tanwydd

-          Tlodi ariannol / uchafu incwm

-          Tlodi bwyd

-          Cynhwysiad Digidol

-          Materion lletya

-          Taclo Unigedd ac Ynysu Cymdeithasol

-          Bod yn actif/ gweithgar yn eu cymuned

-          Byw yn Iach / Byw gyda Salwch Cyfyngol

-          Anabledd

-          Cyfrifoldebau Gofalu am anwyliaid

-          Helpu pobl i fyw yn annibynnol

-          Cael mynediad i wasanaethau statudol pan fo angen help i wneud hynny.

 

1.5 Dylai’r Hybiau fod yn cefnogi poblogaeth gyfan (bob oed) mewn ardal ddaearyddol (pentref, dref, clwstwr o bentrefi).

 

1.6 Mae’r Gronfa yn gronfa refeniw tan Mawrth 2023.

 

 

2. Pa lefel grant y gellir ei ddyfarnu?

 

Mae Arian Refeniw ar gael i’w rannu i grwpiau drwy Wynedd. 

 

Croesewir ceisiadau drwy gwblhau’r ffurflen gais a cyflwyno proffil costau.

 

Dylai’r costau fod ar gyfer cyflawni’r rôl o cydlynu a chydgordio cynnig yr Hwb.

 

3. Pa fath o brosiectau a fyddai’n bosib i’r Gronfa gefnogi?

 

Gallwn gefnogi ‘hybiau’ cymunedol sydd eisoes yn weithredol  (i gyflawni nodau’r gronfa hon) neu i ddatblygu ymhellach ( i gyflawni mwy o nodau’r gronfa hon).

Gallwn gefnogi mudiadau i sefydlu, datblygu a chydlynu hybiau cymunedol or newydd.

 

Enghreifftiau o wariant REFENIW y gallai’r Gronfa eu cefnogi i gyflawni’r nodau a nodir yn 1 uchod:

 

  • Hyfforddiant / Treuliau - i wirfoddolwyr a grwpiau i redeg ‘hybiau’

 

  • Costau Rhedeg – cyfraniad tuag at gostau rhent, ynni, ffon sydd ynghlwm a rhedeg ‘hwb’.

 

  • Costau Staffio – cyfraniad tuag at gostau cyflogi cydlynwyr, rheolwyr, gweithwyr sy’n cydgordio / darparu’r ‘hybiau’.

 

  • Marchnata e.e. darparu deunydd marchnata/ gwybodaeth, byrddau dehongli neu bamffledi yn hysbysebu’r ‘hybiau’

 

  • Costau darparu gweithgareddau a gwasanaethau – sydd ynghlwm a rhestr 1.4 uchod,  ond mae’n bwysig nodi mae’r bwriad yw tynnu gweithgareddau a gwasanaethau i ddarparu o’r hybiau, gyda partneriaid yn gweithio ar y cyd gyda’i gilydd,  yn hytrach na datblygu o’r newydd. 

 

 

Sylwer mai enghreifftiau yn unig yw’r rhestrau uchod

 

4. Pwy all ymgeisio am gefnogaeth?

 

Gall grwpiau cymunedol gyda phrosiect sy’n darparu ar gyfer trigolion Gwynedd geisio am gefnogaeth drwy’r Gronfa Hybiau Cefnogi pobol Gwynedd . Mae’n rhaid cyrraedd y meini prawf canlynol os am geisio am arian o’r gronfa:

 

  • Rhaid bod yn fudiad cymunedol neu wirfoddol sydd wedi ei leoli neu yn gweithredu o fewn Gwynedd;
  • Ni all eich mudiad ddosbarthu elw;
  • Rhaid i’ch mudiad fod a statws cyfreithiol a chyfansoddiadol;
  • Rhaid i’ch mudiad fod a strwythur rheoli clir;
  • Rhaid i’ch mudiad gael sustem rheolaeth ariannol glir;
  • Bod ag egwyddorion gweithredol sy’n cyd-fynd a deddfwriaeth ar gyflogaeth, iechyd a diogelwch, cydraddoldeb i weithwyr a gwirfoddolwyr;
  • Dangos dealltwriaeth ac ymrwymiad i gydraddoldeb yn gysylltiedig â mynediad, iaith, diwylliant, rhyw a materion ethnig;
  • Yn meddu ar amcanion a nodau sydd yn cyd-fynd a gweithgareddau ariannir drwy’r grant yma;
  • Dangos bod grwpiau ac unigolion eraill yn yr ardal yn rhan o’r trefniadau lleol a beth yw eu cyfraniad;
  • Rhaid dangos bod egwyddorion gwerth am arian wedi eu dilyn wrth ddatblygu, gweithredu a rhedeg y cynllun, megis eich bod yn dilyn y Cyfarwyddiadau Gwahodd Prisiau (gellir cael copïau ar wefan Cist Gwynedd) ar gyfer y gwaith/gwasanaeth, yn enwedig yn y cynlluniau cyfalaf;
  • Bod egwyddorion gweithredol yn eu lle sy’n cyd-fynd a deddfwriaeth amddiffyn plant ac oedolion bregus.

 

Os mai hyrwyddo crefydd yw prif nod eich grŵp, bydd angen profi bod yr hyn mae’r gronfa yn cyfrannu tuag ato yn agored i’r gymuned gyfan.     

 

Gall Cynghorau Tref/Cymuned fod yn gymwys i ymgeisio.

 

Bydd yn ofynnol ar bob cynllun a gymeradwyir i gydymffurfio â thelerau ac amodau’r Gronfa Hybiau Cefnogi pobol Gwynedd. Mewn rhai amgylchiadau gellir gosod amodau arbennig ar gynllun.

 

5. Sut i ymgeisio am grant?

 

Gellir gwneud cais ar gyfer y Gronfa Hybiau Cefnogi Pobol Gwynedd drwy lenwi’r ffurflen gais bwrpasol. Mae’n bwysig eich bod yn dilyn y cyfarwyddiadau yn ofalus ac yn sicrhau bod eich cynllun yn ymateb i’r canllawiau a’r meini prawf.

 

Mae swyddogion Cyngor Gwynedd ar gael i gynnig arweiniad i chi. Awgrymir yn gryf y dylid cysylltu gyda Swyddog i drafod y cynllun cyn ymgeisio. Mae manylion y swyddogion hyn isod:

 

 

Uwch Swyddog Cist Gwynedd          01286 679 153

 

Swyddog Cefnogi Cymunedau

Dalgylch Bangor ac Ogwen    

dafyddeinionjones@gwynedd.llyw.cymru / 01248 605276

 

Swyddog Cefnogi Cymunedau

Bro Peris, Dalgylch Caernarfon, Bro Lleu/Nantlle   

rhianelingeorge@gwynedd.llyw.cymru / 01286 882968

 

Swyddog Cefnogi Cymunedau

Dalgylch Pwllheli a Penllŷn    

alyslloydjones@gwynedd.llyw.cymru / 01758 704/120

 

Swyddog Cefnogi Cymunedau Bro Dysynni, Ardudwy a Dolgellau   01341 424 504

annalewis@gwynedd.llyw.cymru / 01341424504

 

Swyddog Cefnogi Cymunedau Bala Penllyn, Bro Ffestiniog, Porthmadog a Penrhyndeudraeth

steffanprysroberts@gwynedd.llyw.cymru / 07901 893006

 

6. Pryd y dylid gwneud cais?

 

Dylid sicrhau bod y ffurflen gais wedi ei chwblhau a bod yr holl ddogfennau cefnogol a thechnegol angenrheidiol wedi eu derbyn erbyn y  dyddiad cau perthnasol.

 

DYDDIAD CAU ar gyfer derbyn ceisiadau: 5/8/22

Byddwn yn anelu i asesu a chymeradwyo ceisiadau o fewn 10 diwrnod.