Cyfraddau Lwfans Tai Lleol

Mae’r gyfradd LTL sy’n berthnasol i chi yn dibynnu  ar ba ardal LTL rydych yn byw ynddi o fewn Gwynedd, a’r nifer ystafelloedd gwely yr ydych eu hangen yn ôl y rheolau.

Mae'r ardaloedd LTL yn cael eu galw yn Ardaloedd Marchnad Rhenti Eang [AMRE], ac mae dwy ardal o fewn Gwynedd, sef: 

Mae’r ardaloedd [AMRE] a’r cyfraddau LTL yng Nghymru yn cael eu sefydlu gan y Gwasanaeth Swyddog Rhenti, sydd yn rhan o Lywodraeth Cynulliad Cymru, ac yn hollol annibynnol o Gyngor Gwynedd. Os nad ydych yn sicr ym mha ardal AMRE rydych chi'n byw, cysylltwch â ni drwy ffonio 01286 682689 neu drwy anfon e-bost at LwfansTaiLleol@gwynedd.llyw.cymru

Mae’r cyfraddau LTL yn cael eu sefydlu yn flynyddol o’r 1af o Ebrill pob blwyddyn. Mae’r graddfeydd wythnosol yma yn berthnasol o 1 Ebrill 2024:

Cyfraddau LTL
Ardaloedd Marchnad Rhenti Eang (AMRE)     Maint yr eiddo sydd ei angen
  1 ystafell wely - rhannu cyfleusterau 1 ystafell wely - hunan gynhaliol 2 ystafell wely 3 ystafell wely 4 ystafell wely
Gogledd Orllewin Cymru 78.80 90.00 126.58 143.84 172.60
De Gwynedd 78.80 80.55 100.00 125.00 155.34


Mae cyfraddau LTL Gwynedd hefyd ar gael mewn fformat PDF hawdd eu hargraffu. Cliciwch ar yr atodiad isod i agor y ddogfen ar ffurf PDF: