Gwasanaeth Cymorth Casglu
Mae’r Gwasanaeth Cymorth Casglu ar gael i bobl sydd ddim yn gallu mynd â’u biniau neu focsys ailgylchu allan i’r man casglu oherwydd anabledd neu salwch.
Ar gyfer pwy?
Mae'r gwasanaeth hwn ar gael i bobl:
- sydd ag anabledd / salwch neu mewn oed sy’n golygu nad ydynt yn gallu mynd â’u biniau/bocsys allan i ymyl y pafin neu i’r pwynt casglu arferol.
- sydd â neb arall yn byw yn y cartref sy’n gallu helpu i wneud hyn.
Sut i wneud cais am y gwasanaeth?
Er mwyn gwneud cais am y gwasanaeth, mae gofyn i chi lawrlwytho ac argraffu'r ffurflen gais isod:
Ffurflen gais / Mwy o wybodaeth
Os am dderbyn copi papur o'r ffurflen, e-bostiwch:cymorthcasglu@gwynedd.llyw.cymru
Diweddariad Covid-19: Bydd pob cais yn cael ei adolygu yn unigol ac yn cyd-fynd â gofynion diogelwch y sefyllfa bresennol.