Ailgychu Gwastraff Bwyd: Her Harlech
Her Harlech – ymgyrch codi ymwybyddiaeth gwastraff bwyd
Bydd Tîm Ailgylchu Cyngor Gwynedd cynnal ymgyrch mewn ardaloedd penodol o Harlech rhwng mis Medi a Rhagfyr 2025. Y gobaith ydi codi lefelau ailgylchu gwastraff bwyd.
Bydd y Tîm yn cynnal y gweithgareddau isod:
- Casglu gwybodaeth am faint o finiau bwyd sydd yn cael eu rhoi allan
- Cynnal sgyrsiau gyda thrigolion i drafod eu anghenion gwastraff bwyd
- Cynnig cyngor a gwybodaeth am y gwasanaeth i’r trigolion
- Dosbarthu cyfarpar ailgylchu bwyd
- Trafod materion ailgylchu a sbwriel cyffredinol
- Cynnal sgyrsiau gyda’r Ysgolion lleol.
Oeddech chi'n gwybod?
- Mae posib ailgylchu gwastraff bwyd bob wythnos yng Ngwynedd.
- Mae'n bosib creu trydan a gwrtaith o safon ar gyfer tyfu amaethyddol efo'r gwastraff bwyd sydd yn cael ei gasglu.
- Mae defnyddio bagiau bwyd yn ffordd o gadw’r cynnwys yn daclus, y cadi bwyd yn lân, a’r drefn o ailgylchu bwyd yn hawdd.
Close
Cwestiynau cyffredin
Bydd yr ardal dan sylw yn cynnwys:
- Cae Gwastad
- Tŷ Canol
- Ffordd Wylan Bach
- Pant yr Eithin
- Bron yr Hwylfa
- Pen yr Hwylfa
- Y Waun
- Ffordd Morfa
- Trem y Castell
- Ffordd Glan y Môr
- Castell Morfa
- Hwylfa’r Nant
- Nant y Mynydd
- Maes Meillion
- Ael y Glyn
- Cae Main
Mae rhai rhannau o Harlech yn cael eu targedu i gynyddu faint o wastraff bwyd sydd yn cael ei gasglu, am gyfnod o dri mis, o fis Medi hyd ddiwedd Rhagfyr.
Dyma ardal yng Ngwynedd sydd yn cael ei ddefnyddio fel lleoliad i dreialu ffordd wahanol o godi ymwybyddiaeth am bwysigrwydd ailgylchu bwyd bob wythnos. Bydd y Tîm Ailgylchu yn cofnodi data am beth sydd yn cael ei gyflwyno, yn cynnal ymgyrch codi ymwybyddiaeth ac yn mesur faint o fwyd sydd yn cael ei gasglu.
Bydd y Tîm Ailgylchu yn gwneud ymdrech i drafod y buddion gyda’r holl drigolion yn yr ardal darged ac yn gweithio hefyd i ateb cwestiynau perthnasol am ailgylchu. Bydd cyfle i’r rhai hynny sydd heb ddechrau cyflwyno eu bwyd i ddysgu mwy am beth sydd yn cael ei wneud gyda’r gwastraff bwyd, a chynnig cyngor ymarferol am ddefnyddio’r gwasanaeth yma.
Dim ond rhai eiddo domestig mewn rhan o Harlech sydd yn cael eu targedu am y tro. Mae modd i fusnes wneud cais am gasgliad gwastraff bwyd drwy gysylltu gyda
Gwasanaeth Gwastraff Masnachol y Cyngor.
Bydd y Tîm Ailgylchu yn gallu dosbarthu cyfarpar fel bod modd defnyddio’r gwasanaeth casglu gwastraff bwyd.
Bydd y Tîm yn canolbwyntio ar ardal Harlech ac yn creu rhaglen ymweld eto, gyda gwybodaeth yn cael ei gyhoeddi am y cynllun yn Harlech a’r camau nesaf.