Cynllunio ar gyfer argyfwng
Cyfrifoldebau'r Cyngor
Rôl y Cyngor wrth baratoi am argyfwng yw asesu risg a gwneud cynlluniau, rhoi cyngor a chymorth i’r cyhoedd a busnesau, a gweithio gyda’r gwasanaethau brys ac asiantaethau. Byddwn hefyd yn sicrhau bod y Cyngor yn parhau i allu darparu gwasanaethau angenrheidiol mewn argyfwng.
Pan fo argyfwng mawr yn digwydd, bydd y Cyngor yn cydweithio â’r gwasanaethau brys, asiantaethau a gwirfoddolwyr er mwyn gofalu am les y cyhoedd, ac yn darparu cymorth technegol ac adnoddau ar safle’r argyfwng. Bydd y Cyngor yn ceisio cynnal gwasanaethau hanfodol yn ystod argyfwng.
Hefyd, dylai’r Cyngor allu darparu llety dros dro, cyfleusterau bwyd / gorffwys a gwasanaethau cymdeithasol a lles. Byddwn yn trefnu ailgartrefu pobl dros dro neu’n barhaol ac yn delio â materion iechyd cyhoeddus / amgylcheddol, traffig a pheririanneg strwythurol a diogelwch ffyrdd a thraffyrdd. Bydd y Cyngor yn cydweithio â’r heddlu a’r Crwner i ddarparu mannau dal cyrff / marwdai dros dro. Y Cyngor sy’n gyfrifol am gydgordio adferiad tymor hir yr ardal gaiff ei heffeithio.
Paratoi ar gyfer argyfwng
Mae gwybodaeth gan y Cyngor am baratoi cynllun a phecyn argyfwng a beth i’w wneud pan fo argyfwng neu ddamwain yn digwydd yn y ddogfen Paratoi ar gyfer argyfwng
Mae mwy o wybodaeth yn y daflen Paratoi ar gyfer argyfwng - Cyngor argyfwng i bobl yng Ngogledd Cymru sydd wedi ei chynhyrchu gan gyrff cyhoeddus Gogledd Cymru.
Paratoi ar gyfer tywydd garw: Cyngor gan y Met Office
Cynllun Cydnerthedd Cymunedol
Gall eich cymuned chi fynd ati i lunio Cynllun Cydnerthedd Cymunedol ar gyfer Argyfwng fel eich bod yn barod i ymateb i argyfyngau sy’n effeithio arnoch.
Cofrestr Risg Gymunedol
Mae Cofrestr Risg Gymunedol Fforwm Cydnerthedd Gogledd Cymru yn asesu pa mor debygol yw peryglon a digwyddiadau o daro Gogledd Cymru a beth fyddai eu heffaith.
Gwasanaeth Cynllunio at Argyfwng Rhanbarthol Cynghorau Gogledd Cymru
Cysylltu â ni: 01352 702 124 neu ymwelwch â
Gwefan y Gwasanaeth