Sut i ganfod ystadegau drosoch eich hun

Os nad ydych wedi llwyddo i ganfod y wybodaeth rydych ei hangen ar y wefan hon, neu os ydych angen mwy o fanylder, mae sawl ffynhonnell arall y gallwch eu defnyddio.

Dyma grynodeb o’r hyn sydd ar gael drwy’r gwahanol ffynonellau a sut i gael ato.

Cyswllt: www.nomisweb.co.uk

Mae enw’r wefan yn sefyll am ‘National Online Manpower Information Service’, ac mae’r rhan fwyaf o’r setiau data’n rhai economaidd – arolygon o’r farchnad lafur, ffigurau diweithdra, ystadegau swyddi ac ati. Ond yn ogystal, dyma’r ffordd hawsaf o gael canlyniadau’r Cyfrifiad.

Gallwch greu tablau sy’n cynnwys y wybodaeth rydych ei hangen drwy ddewis set o ddata, ac yna mynd drwy’r opsiynau pellach yn dewis perimedrau ar sail ardal (o lefel gwlad i lawr at wardiau ac OAs pan fo’r wybodaeth ar gael; gallwch greu eich ardaloedd eich hun hefyd), a dewis pa ffactorau rydych am eu cynnwys yn eich tabl.

Y tro cyntaf y byddwch yn mynd i’r safle, dewiswch ‘Wizard query’ – bydd hyn yn eich arwain drwy’r broses o greu tabl.

Gallwch hefyd weld proffiliau marchnad lafur o ardaloedd, sy’n cynnwys data ar boblogaeth, cyflogaeth, cymwysterau, enillion, hawlwyr budd-daliadau a busnesau. Mae’r rhain ar gael ar gyfer ardaloedd fel wardiau, siroedd ac etholaethau seneddol.

Cyswllt: www.ons.gov.uk

Casgliad mawr iawn o gyhoeddiadau’r Swyddfa Ystadegau Gwladol, ar wahanol themâu megis Trosedd a Chyfiawnder, Economi, Poblogaeth, a Thrafnidiaeth.

Mae’r wybodaeth ar gael mewn fformatiau amrywiol – adroddiadau, data crai, arolygon ac ati – ond nid yw’n bosib i chi ddewis a dethol pa ffigurau rydych yn eu cael.

Gellir pori drwy’r gwahanol themâu er mwyn canfod y wybodaeth, neu gellir chwilio am allweddeiriau – ond nid yw’r system yn soffistigedig iawn, sy’n golygu bod canfod y wybodaeth gywir yn gallu bod yn her.

Gallwch hefyd danysgrifio i’w bwletinau, sy’n rhoi gwybod i chi pan fo data newydd yn cael ei ryddhau mewn meysydd sydd o ddiddordeb i chi.

Mae rhai o’r cyhoeddiadau, ond nid y cyfan, ar gael yn Gymraeg. Ceir manylion ynghylch defnyddio’r safle ar y dudalen Canllaw a Methodoleg.

Cyswllt: www.statscymru.cymru.gov.uk

Casgliad o ddata perthnasol i Gymru, o nifer o wahanol ffynonellau; mae data ar gael ar lefel sirol yn ogystal â chenedlaethol mewn rhai achosion. Mae’r wefan yn creu tablau y mae’n bosib i chi eu golygu. Mae’r data wedi ei rannu’n wahanol gategorïau, er enghraifft Addysg a Sgiliau, Tai, Twrisiaeth, Trafnidiaeth, a’r Iaith Gymraeg.

Gallwch ganfod gwybodaeth drwy chwilio am allweddair neu drwy bori’r catalog fesul categori. Mae’r rhyngwyneb yn gadael i chi benderfynu pa ffactorau i’w gweld (e.e. cyfnodau, ardaloedd), trefnu’r data, creu siartiau, ac allforio data. Mae’r dudalen Help yn rhoi arweiniad manwl ynghylch defnyddio’r safle.

Cyswllt: www.cymru.gov.uk/statistics-and-research/?lang=cy

Ystadegau Cymreig sydd, yn bennaf, yn perthyn i’r meysydd lle mae Llywodraeth Cymru’n gweithio. Yn ogystal â chanlyniadau ymchwil, mae’r wefan yn cynnwys gwerthusiadau o raglenni’r Llywodraeth a phroffiliau rhanbarthol.

Mae’r rhan fwyaf o’r wybodaeth wedi ei chyflwyno ar ffurf adroddiadau neu fwletinau yn hytrach na data crai. Fel gyda gwefan yr ONS, gellir drilio i lawr drwy’r themâu neu chwilio am allweddeiriau.

Mae’r Porwr Dangosyddion Strategol Cenedlaethol yn dangos y canlyniadau ar ffurf mapiau a graffiau. 

Cyswllt: www.infobasecymru.net

Gwefan sy’n cael ei chynnal gan Uned Ddata Llywodraeth Leol Cymru, ac sy’n gasgliad cynhwysfawr o nifer o wahanol ystadegau perthnasol. Mae pwyslais ar fapio data, ond yn ogystal gallwch weld adroddiad am ardal benodol, a chreu tablau a siartiau soffistigedig. Gellir argraffu ac allforio’r allbwn.

Mae canllawiau ar ddefnyddio’r system i’w gweld yn y ddogfen Cymorth.

Cyswllt: http://mylocalschool.gov.wales/?lang=cy

Gallwch chwilio am ysgol benodol er mwyn gweld ystadegau fel nifer y disgyblion a’r staff, gwybodaeth am gyllid a chyrsiau, a chanlyniadau’r ysgol. 

 

Gallwch gysylltu â ni am help i ddefnyddio’r ffynonellau hyn (er y byddai’n well i chi gysylltu â nhw’n uniongyrchol os ydych yn cael trafferthion technegol).


Gwybodaeth bellach

 Ar-lein: ffurflen ymholiadau
 E-bost: ymchwil@gwynedd.llyw.cymru
 Ffôn: 01286 679619