Gweithio i Wasanaeth Plant Gwynedd

Mae swyddi ar gael yn y Gwasanaeth Plant. 'Ryda ni’n chwilio am bobl sydd....

  • isho gwneud gwahaniaeth
  • isho cefnogi plant a phobl ifanc yn eu cymunedau
  • Isho rhoi plant a theuluoedd yn ganolog i popeth da ni’n wneud

  • Isho gweithio i gyflogwr sydd eisiau datblygu gweithwyr mewn amrywiaeth o swyddi. 

Swyddi llawn amser a rhan amser ar gael, gyda thelerau gwaith da ac oriau cyson.

Beth amdani?

Byddem yn hapus iawn i gael sgwrs efo chi i drafod y cyfleon yn eich ardal chi.

Cysylltwch â ni ar 07384876908 neu gofalu@gwynedd.llyw.cymru

Neu gallwch lenwi’r Ffurflen Mynegi Diddordeb a byddwn yn cysylltu nôl efo chi’n fuan.

Ymunwch â ni!

Close

 

Darllenwch am y math o waith sydd ar gael, y buddiannau, a blas o beth sydd gan staff sy'n gwneud y swyddi yn barod i'w ddweud..... 

Mae'r gwasanaeth plant yn un amrywiol iawn gyda nifer o wahanol swyddi ar gael. Er enghraifft

  • Gweithwyr Cymdeithasol
  • Gweithwyr Cefnogi Teuluoedd
  • Gweithwyr Cyfiawnder Ieuenctid
  • Gweithwyr cefnogi plant a phobl ifanc gydag anghenion addysgu ychwanegol
  • Swyddogion Tîm o Gwmpas y Teulu
  • Gweithwyr Ieuenctid 

Mae Gwasanaethau Plant Cyngor Gwynedd yn falch o gael ei ystyried yn un sy'n annog arloesedd a chredigrwydd ym maes gwaith cymdeithasol.  


Datblygiad a Chefnogaeth
Bydd gweithwyr yn derbyn goruchwyliaeth a chefnogaeth rheolaidd.

Rydym yn cynnig cyfleoedd datblygu a dysgu amrywiol gyda'r dewis i ddysgu o bell ac yn rhan amser wrth barhau i weithio a derbyn cyflog.

Bydd cyfle i weithwyr a rheolwyr ddewis cymwysterau addas iddynt  er enghraifft:.

  • Rhaglen Datblygu Rheolwr Tîm / Rheolwyr Canol
  • Addysgwr Ymarfer – Ar gyfer goruchwylio myfyrwyr
  • Cymwysterau ‘Plant a Phobl Ifanc ‘ Lefel 3-5
  • Cymhwyster Ymarferydd gwasanaethau cymdeithasol
  • Amryw o gymwysterau penodol i feysydd gwaith arbenigol.
  • Rhaglenni Ôl Gymhwyso Gwaith Cymdeithasol addas 
  • Cynllun 3 Blynedd Gyntaf i Weithwyr Cymdeithasol newydd gymhwyso.

Dyfyniad gan hyfforddwraig...

Rydym wedi bod yn gweithio efo Siobhan Maclean Hyfforddwr ac awdures yn y maes gwaith cymdeithasol. Dyma oedd ganddi i'w ddweud: 

‘I always enjoy working with social workers in Gwynedd. As an organisation it seeks to be innovative in looking at how it can support staff in a range of ways. I am impressed that reflection seems to be embedded at every layer of the organisation which creates an emotionally rich environment for practice. Senior managers show a real commitment to the provision of individually tailored reflective supervision. There really seems to be space for creativity in practice. Whilst we can’t reinvent the wheel in areas like child protection it does need to be realigned every now and again and practitioners in Gwynedd get the opportunity to do that."

Close

Mae gwasanaethau plant Gwynedd wedi datblygu nifer o wasanaethau arloesol dros y blynyddoedd diwethaf 

Model Risg
Mae’r Model Risg yn enghraifft o ddatblygiad hir dymor sydd bellach yn cael ei ddefnyddio mewn sawl awdurdod lleol yng Nghymru a Lloegr.  Mae’n fframwaith sy’n cefnogi ymarferwyr i ddadansoddi’r trothwy o niwed arwyddocaol. 


Cynllun Amddiffyn Plant yn Effeithiol
Mae’r gwasanaeth yn parhau i arloesi ym maes amddiffyn plant gyda’r prosiect Amddiffyn Plant yn Effeithiol. Mae hwn yn ddatblygiad sydd yn paratoi’r tir i weddill y rhanbarth er mwyn canfod y gwelliannau allweddol hynny i wneud sy’n arwain at waith amddiffyn plant fwy effeithiol. Mae’r gwaith yn cael ei gyflwyno gyda ffocws gryf ar gefnogaeth mentor ymarfer a defnydd o alewyrchu ar ymarfer.


Tîm Emrallt
Mae Tîm Emrallt yn wasanaeth cynghori yng Ngwynedd sy'n canolbwyntio ar adnabod ac ymateb yn gynnar i blant a phobl ifanc sy'n arddangos ymddygiadau rhywiol niweidiol a phroblemus.  Mae ein gwaith yn cynnwys uwch sgilio gweithwyr, darparu adnoddau ac ymyriadau ar gyfer pob gweithiwr proffesiynol sy'n gweithio gyda phlant, pobl ifanc a'u teuluoedd ac yn hyrwyddo dull aml asiantaethol o ymdrin â'r maes gwaith sensitif hwn.

 

Dyfyniad gan deulu

"It's extremely beneficial to a family to have as much support as possible and it's been great to have someone come here to not only listen but give my son some feeling of security that someone is looking out for him... he's had someone he can trust to talk to and he feels safe."

Close

Mae Cyngor Gwynedd yn cynnig …

  • Swyddi gyda cytundebau shifftiau amrywiol llawn neu ran amser yn eich ardal chi
  • Cyflog uwch na graddfa “cyflog byw”
  • D.B.S am ddim
  • Cofrestriad proffesiynol am ddim
  • Cyflwyniad i’ch paratoi i weithio a hyfforddiant am ddim
  • Os ydych yn newid gyrfa rydym yn cynnig cefnogaeth ymarferol i’ch helpu i ddefnyddio eich sgiliau mewn ffyrdd gwahanol
  • Pensiwn gwaith da
  • Cynllun buddiannau staff
  • Gwyliau yn cychwyn o 24.5 dydd pro rata
  • Cefnogaeth rheolwr profiadol , cydweithwyr a chydweithwyr o adrannau eraill megis iechyd a diogelwch, iechyd galwedigaethol a chwnsela
  • Offer ac adnoddau i’ch cefnogi a’ch cadw yn saff gan gynnwys cyflenwad personol o offer amddiffynnol addas menig masgiau ffedog … am ddim