320px-prentis-cynllun-yfory

Mae Cynllun Yfory, sef Cynllun Graddedigion Cyngor Gwynedd, yn rhoi'r cyfle i chi ddeall mwy am lywodraeth leol a byddwn yn cynnig profiadau ymarferol i chi ar draws yr adrannau i ddatblygu eich sgiliau arwain a rheoli. Byddwch yn derbyn profiadau ymarferol ac amryw o gyfleoedd i ddatblygu eich sgiliau i sicrhau gyrfa hir a llewyrchus yma.

 Prospectws 2024

 

Newyddlen Gwanwyn 2024

 

 

Mae’r Cynllun yn rhoi'r cyfle i chi ddatblygu arbenigedd mewn maes allweddol a deall mwy am weithio mewn llywodraeth leol. Byddwch yn derbyn profiadau ymarferol a chyfleoedd i ddatblygu eich sgiliau arbenigol a phersonol i sicrhau gyrfa hir a llwyddiannus yma. 

Mae’r Cynllun yn gyfle unigryw i unrhyw un sydd â gradd neu gyfwerth ddatblygu gyrfa yng Nghyngor Gwynedd. Os ydych chi erioed wedi meddwl y byddech chi’n hoffi gweithio i lywodraeth leol, mae Cynllun Yfory yn berffaith i chi.

£29,269 i £30,825

Bydd yr union bwynt cyflog yn ddibynol ar gynnydd.

Bydd rhaid i ymgeiswyr gyrraedd y gofynion sylfaenol isod:

  • Eich bod yn meddu ar (neu yn debygol) o ennill gradd  dosbarth 2:2 neu uwch. Fe all eich gradd fod mewn unrhyw faes. Fe rydych yn gymwys i ymgeisio pryd bynnag y gwnaethoch chi raddio.

  • Eich bod yn rhugl yn y Gymraeg a’r Saesneg

  • Eich bod yn meddu ar TGAU Gradd C neu uwch mewn Mathemateg, Cymraeg, Saesneg a Gwyddoniaeth

  • Eich bod wir eisiau gweithio mewn llywodraeth leol

  • Eich bod wedi dangos parodrwydd i arwain eraill e.e. mewn sefyllfa addysgiadol (ysgol, coleg, prifysgol), chwaraeon, gymdeithasol, gymunedol neu waith.

1. Oes angen profiad yn y maes penodol cyn gallu ymgeisio am y swydd?

Nac oes, nid oes angen profiad blaenorol ond bydd angen i chi ddangos parodrwydd i ddatblygu.

2. Sut ydw i’n ymgeisio?

Mae’n bosib ymgeisio am y swyddi drwy wefan Cyngor Gwynedd.

Bydd y broses ymgeisio’n agor yn fuan!

3. A oes angen i mi fod â gradd benodol er mwyn gallu ymgeisio?

Nac oes, nid oes angen gradd benodol arnoch, ond mae’n rhaid i chi fod gyda gradd 2:2 neu uwch.

4. Beth yw hyd y cynllun?

Bydd hyd y Cynllun yn dibynnu ar hyd y cymhwyster y byddwch yn ei ddilyn.

5. A oes sicrwydd swydd ar ddiwedd y Cynllun?

Bydd pob ymdrech posibl yn cael ei wneud i sicrhau bod yr ymgeisydd llwyddiannus yn cael pob cyfle posib i dderbyn swydd wedi’r Cynllun.

Ers i’r Cynllun ddechrau, mae’r Cyngor yn falch o ddweud bod y rhan fwyaf o’r ymgeiswyr llwyddiannus wedi derbyn swydd barhaol yn y Cyngor ar ddiwedd y Cynllun.

6. Pa gefnogaeth fydd ar gael i mi yn ystod y cynllun?

Bydd cefnogaeth lawn yn cael ei gynnig i’r ymgeisydd llwyddiannus drwy gydol y cynllun – yn ystod y lleoliadau a thra’n astudio’r cymhwyster.

7. Rwyf wedi ymgeisio am y swydd o’r blaen ond heb fod yn llwyddiannus, ga’ i ymgeisio eto eleni?

Wrth gwrs! Os ydych chi’n cyrraedd gofynion y swydd yna mae croeso i chi ymgeisio eto hyd yn oed os nad oeddech chi’n llwyddiannus y tro cyntaf.

8. Beth yw’r broses ymgeisio?

1. Gwneud cais ar-lein

2. Byddwn yn tynnu rhestr fer

3. Canolfan Recriwtio

4. Cyfweliad ffurfiol

5. Penodi

 

Cofrestrwch eich diddordeb

Cofrestrwch i fod ar ein rhestr e-bost i dderbyn gwybodaeth am swyddi Cynllun Yfory 2023 yn eich meysydd diddordeb chi.

Cofrestru

 

 

Cysylltu â ni

Os oes ganddoch ymholiad, e-bostiwch cynllunyfory@gwynedd.llyw.cymru neu ffoniwch 01286 679 599.