Ffordd Gwynedd yw’r enw a roddir ar y “ffordd o weithio” yr ydym ni yng Nghyngor Gwynedd wedi’i fabwysiadu er mwyn rhoi pobl y Sir yn ganolog i bopeth yr ydym yn ei wneud. Nid proses na syniad damcaniaethol mohoni ond yn hytrach casgliad o drefniadau gwaith, ymddygiadau a diwylliant sydd, gyda’i gilydd, yn caniatáu i ni fod yn hyderus ein bod yn edrych ar y gwasanaeth trwy lygaid y defnyddiwr. 

Mae datblygu’r diwylliant yma yn golygu bod angen cael gwared â’r rhwystrau sy’n atal ein gweithwyr rhag gwneud eu gwaith, sy’n ein gorfodi i herio’r ffordd rydym yn gweithio yn barhaus. Mae’r penderfyniadau sy’n dilyn yn seiliedig ar dystiolaeth yn hytrach na thybiaethau. Mae’n golygu gweithio ar draws ffiniau strwythurol mewnol y Cyngor er mwyn cyflawni’r hyn sydd ei angen, gan greu a chynnal amgylchedd gwaith sy’n cynnwys pawb. Mae hyn hefyd yn hyrwyddo ac yn cefnogi llesiant meddyliol a chorfforol ein gweithwyr yn ogystal â pharchu egwyddorion gweithredu allweddol yng nghyd-destun cydraddoldeb ac iaith.

 

DGC

 

Yn niwylliant Ffordd Gwynedd mae timau yn cwestiynu ac yn herio trefniadau a phrosesau hanesyddol sy’n cael eu cymryd yn ganiataol. Buddsoddir amser yn cofnodi llif gwaith a’r hyn sy’n digwydd go iawn. Maent yn adnabod camau gwag nad ydynt bellach yn ychwanegu gwerth tra’n nodi rhwystrau sy’n ein hatal rhag gweithredu’n effeithiol. Mae’n annog arloesi a chreadigrwydd gyda’r pwyslais ar arbrofi ac yna gweithredu’r newidiadau angenrheidiol. Mae hyn oll yn ein cynorthwyo i wella gwasanaeth ond, er mwyn cynnal y “ffordd o weithio”, mae’n rhaid newid meddylfryd uwchben popeth arall.