Cyngor i fusnesau: Hyderus o ran Anabledd

Beth mae’n golygu i fod yn gyflogwr hyderus o ran anabledd?

Menter gan y llywodraeth yw 'Hyderus o ran Anabledd' sydd wedi’i chynllunio i annog cyflogwyr i recriwtio a chadw pobl ag anableddau a rhai sydd â chyflyrau iechyd mewn gwaith. Mae’r Cynllun Hyderus o ran Anabledd yn helpu cyflogwyr i gael y gorau o dalentau pobl ag anableddau yn y gweithle.

Gyda chymorth Hyderus o ran Anabledd, mae miloedd o gyflogwyr yn:

  • herio agweddau tuag at anabledd
  • gwella dealltwriaeth o anabledd
  • dileu rhwystrau i bobl anabl a’r rhai a chyflyrau iechyd hirdymor
  • Sicrhau fod pobl anabl yn cael cyfleoedd i gyflawn eu llawn botensial.

Beth yw’r lefelau gwahanol i fod yn gyflogwr Hyderus o ran Anabledd?

Mae’n wirfoddol ac wedi cael ei ddatblygu gan gyflogwyr a chynrychiolwyr pobl ag anableddau. Mae gan Hyderus o ran Anabledd dair lefel sydd wedi’u cynllunio i gefnogi sefydliadau.

  • Lefel 1: Wedi ymrwymo hyderus o ran anabledd
  • Lefel 2: Cyflogwr Hyderus o ran Anabledd
  • Lefel 3: Arweinydd Hyderus o ran Anabledd

Ei nod yw helpu cyflogwyr i wneud y mwyaf o’r cyfleoedd a ddarperir drwy gyflogi pobl gydag anableddau.

Mwy o wybodaeth: Hyderus o ran anabledd - Canllawiau ar gyfer lefel 1, 2 a 3

 

Manteision o gofrestru i fod yn Gyflogwr Hyderus o ran Anabledd:

  • cyflogi a chadw staff da sy'n fedrus, yn ffyddlon, ac yn ddiwyd
  • arbed amser ac arian ar gostau recriwtio a hyfforddi drwy leihau trosiant staff
  • yn cadw sgiliau a phrofiad gwerthfawr
  • yn lleihau lefelau a chostau absenoldeb oherwydd salwch
  • yn gwella morâl a brwdfrydedd gweithwyr drwy ddangos eu bod yn trin pob cyflogai yn deg
  • llai o drosiant staff.

Gwybodaeth am grant cymorth Mynediad at Waith:

Mae Mynediad at Waith yn gynllun grant cymorth cyflogaeth a ariennir yn gyhoeddus gyda'r nod o gefnogi pobl ag anableddau i ddechrau neu aros mewn gwaith. Gall ddarparu cymorth ymarferol ac ariannol i bobl sydd ag anabledd neu gyflwr iechyd corfforol neu feddyliol. Gellir darparu cymorth lle mae angen cymorth neu addasiadau ar rywun y tu hwnt i addasiadau rhesymol.

Mwy o wybodaeth: Access to Work factsheet for employers

 

Digwyddiad 'Hyderus o ran anabledd'

Bydd digwyddiadau yn cael eu cynnal ledled Gwynedd. I gofrestru ar gyfer digwyddiad cysylltwch â ni drwy e-bostio: GwaithGwynedd@gwynedd.llyw.cymru