Cefnogaeth i waith

Mae Gwaith Gwynedd yma i'ch helpu chi neu rywun rydych chi'n ei adnabod sydd:

  • mewn tlodi neu
  • mewn perygl o dlodi ac
  • eisiau help i gael gwaith neu
  • symud ymlaen yn y gwaith.

Mae Gwaith Gwynedd yn cynnig:

  • cyngor ac arweiniad cyfeillgar,
  • cefnogaeth un i un, a
  • mentora i helpu unigolion i ddatblygu eu sgiliau,
  • dod o hyd i hyfforddiant, gwirfoddoli a chyflogaeth.

Os ydych yn chwilio am swydd, neu eisiau dysgu am gyfleoedd yn eich ardal leol, ymunwch gyda’n hysbysfwrdd swyddi ar facebook.

Mae cymorth ar gael i unrhyw un sydd angen arweiniad gyda chyflogaeth. Gallwn hefyd gefnogi trwy fynd i’r afael â rhwystrau cymhleth unigolion, boed yn iechyd meddwl a lles, tai neu os nad yw rhywun yn gwybod ble i ddechrau.

 

Pa gefnogaeth sydd ar gael?

  • Codi hyder
  • Mentora 1:1 
  • Profiad gwaith
  • Paratoi cyfweliadau
  • Cyfleoedd gwirfoddoli
  • Help i ddatblygu sgiliau
  • Help i greu neu ddiweddaru CV
  • Creu Cynllun Datblygu Personol
  • Cefnogaeth gyda rhwystrau i waith
  • Mynediad am ddim i hyfforddiant galwedigaethol.

 

Cyfeirio

Er mwyn creu cyfeiriad plîs cwblhewch yr holiadur canlynol:

Holiadur Gwaith Gwynedd 

 

Prosiectau Gwaith Gwynedd 

LLWYBRbusstop2

 

Ewch draw i dudalen Facebook ‘Gwaith Gwynedd’ i allu gweld digwyddiadau wythnosol LLWYBR.

Mae Cymunedau am Waith a Mwy (CaW+) ar gael i bawb yng Ngwynedd sy'n chwilio am waith, neu sydd ar incwm isel ac eisiau gwella ei cyfleoedd gwaith, drwy’r gefnogaeth sydd ar gael o fewn Gwaith Gwynedd (gweler uchod). 

Mae cyflogadwyedd yn derm ymbarel am yr holl bethau sy'n cynyddu siawns pobl o gael swydd neu symud ymlaen mewn gyrfa. Mae rhai pobl yn gweld hyn yn anoddach nag eraill. 

Mae Gwaith Gwynedd yn cydweithio gyda phartneriaid i helpu'r bobl hyn i symud ar hyd 'Llwybr Cyflogadwyedd'. 

Mae'r Llwybr Cyflogadwyedd yn nodi'r camau cymorth y gallai unigolyn eu cymryd i sicrhau cael eu cyflogi. Mae'r Llwybr yn cefnogi pobl sy'n ddi-waith; sydd â rhwystr i gyflogaeth, ac sydd gan botensial i symud i gyflogaeth gynaliadwy neu hunangyflogaeth. Gall gyfranogwyr dderbyn cefnogaeth ar bob cam os oes angen, neu ddechrau eu taith nes ymlaen yn y llwybr.

 

Cysylltu â ni:

Ffôn: 01286 679211
E-bost: GwaithGwynedd@gwynedd.llyw.cymru