Asesiad Marchnad Tai Lleol

Mae Asesiad o'r Farchnad Dai Lleol Gwynedd yn darparu sylfaen tystiolaeth gadarn i gefnogi’r  Strategaeth Dai Lleol a’r  Cynllun Datblygu Lleol Gwynedd a’i bolisïau. Gellid hefyd cael ei ddefnyddio fel teclyn i gytuno cymysgedd tai, darpariaeth tai fforddiadwy mewn datblygiadau newydd a dyrannu Grant Tai Cymdeithasol.


Gweld Asesiad Marchnad Tai Lleol Gwynedd

Mae'n hanfodol bod awdurdodau lleol yn datblygu dealltwriaeth gynhwysfawr o'u marchnad dai lleol ar sail dystiolaeth gadarn i gefnogi penderfyniadau am  ddarpariaeth tai’r dyfodol, o ran cyflenwad tai marchnad a thai fforddiadwy. Felly, mae'n ofynnol i bob awdurdod lleol yng Nghymru gynnal Asesiad o'r Farchnad Dai Lleol bob dwy pum mlynedd gydag adolygiad hanner ffordd drwy’r tymor yno.

Mae'r Asesiad o'r Farchnad Dai Lleol yn cael ei baratoi yn unol â chyfarwyddyd gan Lywodraeth Cymru; Canllaw Asesu'r Farchnad Dai Lleol (2006) a’r canllawiau atodol Dechrau ar eich Asesiad o'r Farchnad Dai Lleol (2014)..

Yn gyffredinol, nid yw’r cyflenwad o dai newydd, (tai cymdeithasol neu fforddiadwy) yn cyfarch  â'r galw yng Ngwynedd, ac felly mae’r Asesiad diweddaraf yma o’r Farchnad Dai Lleol yn cynnwys ffigwr sylweddol uwch na'r asesiad blaenorol. Mae'r Asesiad o'r Farchnad Dai Lleol wedi nodi'r angen am gyfanswm o 707 o gartrefi fforddiadwy ychwanegol bob blwyddyn dros gyfnod y cynllun (2017-2022).


I gysylltu â'r Tîm Strategaeth Tai, neu i dderbyn mwy o wybodaeth, ffoniwch 01286 679 289 neu e-bostiwch unedstrategoltai@gwynedd.llyw.cymru