Cynllun Rheoli Carbon

Mae Cynllun Rheoli Carbon wedi ei gynhyrchu gyda chymorth yr Ymddiriedolaeth Garbon i ymateb i heriau newid yn yr hinsawdd. Mae gan y Cyngor ran allweddol i’w chwarae wrth sicrhau bod ein cymunedau’n cael eu paratoi ar gyfer y dyfodol.

Fel ymateb i’r Argyfwng Hinsawdd, mae Cyngor Gwynedd wedi ymrwymo i fod yn Garbon Niwtral erbyn 2030. Mae cam cyntaf y Cynllun Rheoli Carbon wedi ei gwblhau gan leihau allyriadau carbon y Cyngor o 26.1% erbyn 2014/15. Ail gam y cynllun fydd cyrraedd targed cadarn o leihau ein allyriadau carbon o 40% erbyn 2021. 

Hyd yma mae Cyngor Gwynedd wedi buddsoddi bron i £8 miliwn ar brosiectau rheoli carbon gan arwain at arbedion o £4,063,000, arbedion fydd yn parhau i gynyddu gydol y blynyddoedd nesaf.

Gallwch drafod y Cynllun Rheoli Carbon a rhoi unrhyw sylwadau drwy gysylltu â’r Tîm Cadwraeth Ynni.