Gwynedd Gymraeg

Fel arweinydd cenedlaethol byddwn yn hybu ffyniant y Gymraeg ym mhob rhan o’r sir. Ein huchelgais yw:  

  • Sicrhau fod pob plentyn yng Ngwynedd yn gallu defnyddio’r Gymraeg yn hyderus yn yr ysgol ac yn gymdeithasol.
  • Hybu ffyniant y Gymraeg ym mhob rhan o’r sir a sicrhau fod cyfleoedd digonol i bawb allu defnyddio’r Gymraeg yn naturiol yn eu cymunedau.
  • Cydweithio gyda’n partneriaid i hwyluso’r gallu i drigolion Gwynedd gael mynediad at holl wasanaethau cyhoeddus drwy gyfrwng y Gymraeg.
  • Sicrhau fod hybu’r Gymraeg yn rhan allweddol o holl waith y Cyngor, ac unrhyw gynlluniau sydd yn effeithio ar bobl Gwynedd.
  • Cefnogi ymdrechion i greu siaradwyr newydd o bob oed.
  • Sicrhau mynediad at wybodaeth a chyfleusterau hamdden, diwylliannol a chelfyddydol o safon.

Prosiectau Gwynedd Gymraeg 

Mae’n hanfodol fod dysgwyr sy’n newydd-ddyfodiaid yn cael cyfleoedd i ddysgu’r Gymraeg cyn gynted â phosibl, a hynny drwy ddarpariaeth gyfoes o’r radd flaenaf, a gaiff ei lledaenu ledled Cymru. Mae’n hanfodol bod dysgwyr sy’n llai hyderus eu Cymraeg hefyd yn cael y cyfle i fagu hyder a gloywi eu Cymraeg drwy gefnogaeth y Gyfundrefn Addysg Drochi. Rydym hefyd am weld ehangu ein dulliau trochi iaith i gefnogi’r Gymraeg mewn ysgolion sy’n gwasanaethu cymunedau lle mae cyfleoedd i ddefnyddio’r Gymraeg ar yr aelwyd a thu allan i’r ysgol yn gyfyngedig.  Bydd y prosiect yma mewn cydweithrediad efo’r Gyfundrefn Drochi a’n hysgolion yn rhoi’r cyfle gorau i’n holl ddysgwyr ddod yn siaradwyr Cymraeg hyderus sy’n gallu defnyddio’r iaith ym mhob agwedd ar fywyd.

Byddwn yn cynnal prosiectau penodol a fydd yn hybu’r defnydd o’r Gymraeg ac yn cynyddu’r cyfleoedd i ddefnyddio’r Gymraeg yn y gymuned. Bydd hyn yn cynnwys cynyddu’r defnydd o’r Gymraeg wrth ymwneud â gwasanaethau cyhoeddus a chymunedol.