Polisi Gorfodaeth Gwarchod y Cyhoedd
Mae Gwasanaeth Gwarchod y Cyhoedd Cyngor Gwynedd yn gweithio i gadw trigolion, ymwelwyr a busnesau’n ddiogel. Mae’r timau’n ymdrin â diogelwch bwyd, safonau masnach, llygredd, trwyddedu a meysydd rheoleiddio eraill.
Mae Polisi Gorfodaeth Gwarchod y Cyhoedd yn egluro sut rydym yn gweithredu gorfodaeth, sut rydym yn cefnogi busnesau i gydymffurfio, a beth sy’n digwydd pan fo achosion difrifol neu droseddau ailadroddus.
Cynnwys y polisi
- Sut rydym yn gweithio gyda busnesau drwy gyngor ac arweiniad
- Sut rydym yn ymchwilio i gwynion a digwyddiadau
- Pryd y defnyddiwn gamau ffurfiol megis hysbysiadau, dirwyon penodedig, adolygiadau trwyddedu neu erlyniadau
- Ein hymrwymiad i degwch, cysondeb, tryloywder a chymesuredd
- Sut rydym yn diogelu data personol ac yn parchu hawliau dynol ac egwyddorion cydraddoldeb
Ein dull gwaith
Ein nod yw atal problemau cyn iddynt godi. Yn y rhan fwyaf o achosion byddwn yn datrys materion drwy gyngor a chydweithio. Dim ond pan fo angen y cymerir camau ffurfiol – er enghraifft pan fo risg ddifrifol i iechyd, diogelwch, yr amgylchedd neu fasnach deg.