Polisi Trwyddedu

Mae’n rhaid i bob sefydliad sy’n dymuno gwerthu alcohol , cynnal adloniant megis cerddoriaeth, drama, ffilm chwaraeon dan do, dawnsio neu ddarparu bwyd poeth rhwng 23:00 a 05:00, gael trwydded ddilys i wneud hynny. 

I wneud cais am drwydded rhaid cysylltu â Chyngor Gwynedd. Bydd y Cyngor yn ystyried eich cais ac, os oes angen, yn gosod amodau arno er mwyn sicrhau ei fod yn cydymffurfio gyda’r 4 nod a amlinellir yn y Ddeddf Trwyddedu 2003, sef:

  • arbed trosedd ac anhrefn
  • sicrhau diogelwch cyhoeddus
  • arbed niwsans cyhoeddus
  • amddiffyn plant rhag niwed

Mae polisi trwyddedu Cyngor Gwynedd yn cael ei adolygu bob 5 mlynedd.