Cynllun Gwella Hawliau Tramwy
Mae cynhyrchu a chyhoeddi Cynllun Gwella Hawliau Tramwy yn un o ofynion statudol y Ddeddf Cefn Gwlad a Hawliau Tramwy 2000. Cafodd Cynllun Gwella Hawliau Tramwy Cyngor Gwynedd ei fabwysiadu ym mis Hydref 2007, a bydd yn weithredol hyd at Hydref 2017.
Mae copïau caled o’r cynllun hefyd ar gael i’w archwilio yn ddi-dâl ym Mhencadlys y Cyngor, y swyddfeydd ardal ac ym mhrif lyfrgelloedd y sir.
Os ydych yn dymuno derbyn copi caled personol o’r cynllun (mae’n bosib y bydd ffi yn cael ei godi), neu os ydych yn dymuno derbyn copi o’r cynllun mewn ffurf arall, cysylltwch â ni:
- Ffôn: 01286 679536
- Cyfeiriad: Uned Cefn Gwlad a Mynediad, Cyfadran Amgylchedd, Cyngor Gwynedd, Swyddfa'r, Cyngor, Caernarfon Gwynedd, LL55 1SH