Dangos Dogfen Adnabod i Bleidleisio

Mae Llywodraeth y Deyrnas Unedig wedi pasio deddf fydd yn newid y ffordd rydyn ni'n pleidleisio yn Etholiadau Senedd y Deyrnas Unedig ac Etholiadau Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu. Gelwir y ddeddf hon yn Ddeddf Etholiadau 2022.

Nid yw'r ddeddf hon yn berthnasol i Etholiadau Senedd Cymru, Cyngor Gwynedd na’r Cynghorau Cymuned. Llywodraeth Cymru sy'n gosod y ddeddfwriaeth ar gyfer y rhain.

Pleidleisio mewn gorsafoedd pleidleisio

Bydd angen i chi ddangos dogfen adnabod â llun mewn gorsafoedd pleidleisio ar gyfer etholiadau Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu ac etholiadau Senedd y Deyrnas Unedig (o fis Hydref 2023 ymlaen).

Y mathau o ddogfen adnabod â llun y gallwch chi eu defnyddio

  • Rhaid i’r ddogfen adnabod â llun fod yn un gymeradwy, fel pasbort neu drwydded yrru.
  • Derbynnir dogfennau gwreiddiol yn unig. Ni dderbynnir delweddau na chopïau wedi'u sganio.
  • Os nad ydy eich dogfen adnabod â llun yn gyfredol, byddwn dal yn ei derbyn cyn belled â bod dal modd eich adnabod o’r llun.

Mae'r mathau o ddogfennau adnabod sy’n cael eu defnyddio a’u derbyn yn gyffredinol yn cynnwys:

  • Pasbort a gyhoeddwyd gan y DU, unrhyw un o Ynysoedd y Sianel, Ynys Manaw, Tiriogaeth Dramor Brydeinig, gwlad â statws Ardal Economaidd Ewropeaidd (AEE) neu wlad yn y Gymanwlad
  • Trwydded yrru ffotograffig a gyhoeddwyd gan y DU, Ynysoedd y Sianel, Ynys Manaw, gwladwriaeth AEE neu wlad yn y Gymanwlad
  • Cerdyn adnabod ffotograffig yr AEE
  • Cerdyn adnabod ag arno hologram y Cynllun Prawf Oed Safonol (cerdyn PASS)
  • Bathodyn Glas
  • Pàs Bws Person Hŷn
  • Pàs Bws Person Anabl
  • Cerdyn Oyster 60+

Os ydych yn ansicr a ydy’r ddogfen adnabod â llun sydd gennych ar hyn o bryd yn cael ei derbyn, gallwch ddod o hyd i fwy o wybodaeth am y mathau o ddogfennau adnabod sy'n cael eu derbyn ar wefan GOV.UK

Neu gallwch gysylltu â'n Tîm Gwasanaethau Etholiadol:


Yr hyn y dylech chi ei wneud os nad oes gennych ddogfen adnabod gymeradwy

Os nad oes gennych ddogfen adnabod gymeradwy, bydd angen i chi wneud cais am 'Dystysgrif Awdurdod Pleidleiswyr' (TAP) sydd ar gael am ddim.

Neu gallwch gysylltu â'n Tîm Gwasanaethau Etholiadol i ofyn am ffurflen bapur.

Ar ôl i chi dderbyn eich TAP, ni fydd dyddiad dod i ben arni. Fodd bynnag, fe’ch cynghorir i adnewyddu eich TAP mewn 10 mlynedd i sicrhau bod y llun dal i edrych yn debyg i chi.

Y dyddiad cau i wneud cais am TAP fydd 5.00pm, chwe diwrnod gwaith cyn dyddiad yr etholiad.

 

Pleidleisio trwy'r post neu drwy ddirprwy

Os ydych yn dewis pleidleisio drwy'r post, ni fydd hyn yn effeithio arnoch a byddwch yn derbyn eich papurau pleidleisio drwy'r post fel arfer.

Os ydych chi'n dewis pleidleisio trwy ddirprwy, yna bydd yn rhaid i'r sawl rydych chi wedi ymddiried ynddo i bleidleisio ar eich rhan ddangos ei ddogfen adnabod ei hunan sy’n cynnwys llun ohono. Os nad oes gan eich dirprwy ddogfen adnabod â llun, ni fydd yn derbyn y papur pleidleisio.

 

Newidiadau pellach i’r system etholiadol

Am fwy o wybodaeth am y ddeddf hon ewch i wefan y Comisiwn Etholiadaol