Cofrestru i bleidleisio

Mae'n rhaid i chi fod ar y gofrestr cyn y gallwch chi bleidleisio mewn etholiad neu refferendwm yn y Deyrnas Unedig.

Nid oes rhaid cofrestru bob blwyddyn er mwyn i’ch enw fod ar y gofrestr.

Byddwch yn derbyn cadarnhad o'ch manylion trwy'r post rhwng Awst a Hydref pob blwyddyn a bydd angen i chi ymateb er mwyn aros ar y gofrestr. 

Nid yw’r ffaith eich bod yn talu Treth Cyngor yn golygu eich bod ar y gofrestr yn awtomatig.

Os yw eich enw ar y gofrestr nid oes rhaid i chi bleidleisio.

Os nad yw eich enw ar y gofrestr mae’n bosib y byddwch yn cael trafferth wrth wneud cais am wasanaethau ariannol, e.e. agor cyfrif banc, gwneud cais am fenthyciad.

 

Gallwch gofrestru i bleidleisio os ydych:

  • yn 14 oed neu drosodd (gallwch bleidleisio mewn rhai etholiadau pan yn 16 oed, a gallwch bleidleisio ym mhob etholiad pan yn 18 mlwydd oed. Mwy o wybodaeth)
  • yn ddinesydd y Deyrnas Unedig, Gweriniaeth Iwerddon neu’r Gymanwlad
  • yn ddinesydd un o wledydd yr Undeb Ewropeaidd yn byw yn y Deyrnas Unedig
  • yn ddinesydd Ynysoedd y Sianel, Ynys Manaw neu Diriogaeth Tramor Prydeinig yn byw yn y Deyrnas Unedig 

Gallwch gofrestru i bleidleisio, a diweddaru eich manylion ar y gofrestr drwy fynd i wefan gov.uk

Mae gwybodaeth am y newidiadau cenedlaethol i'r drefn cofrestru i bleidleisio ar gael drwy fynd i: www.gov.uk/gwybodaethamgofrestru  

Mae'r Swyddog Cofrestru Etholiadol yn creu ac yn cadw 2 fersiwn o'r gofrestr:

  • Cofrestr gyflawn: Mae'r gofrestr gyflawn yn dangos enw pawb sydd â hawl i bleidleisio. Gallwch gadarnhau os ydych ar y gofrestr drwy ffonio 01766 771000. Mae’r gofrestr gyflawn yn cael ei defnyddio ar gyfer etholiadau, atal a chanfod trosedd ac ymchwilio i geisiadau am gredyd.
  • Y gofrestr agored: Mae'r gofrestr agored yn cynnwys enwau a chyfeiriadau pawb sydd ddim wedi gwneud cais i beidio â bod ar y fersiwn honno o'r gofrestr. Mae cwestiwn ar y ffurflen gofrestru yn gofyn â ydych chi eisiau gwneud cais i gael eich eithrio o’r gofrestr agored. Gall unrhyw un wneud cais i brynu copi o'r gofrestr, a gellir ei defnyddio at unrhyw bwrpas, e.e. gweithgareddau masnachol fel marchnata.

    Fel awdurdod cyhoeddus, mae'n ofyn cyfreithiol i’r Cyngor ddiogelu'r arian cyhoeddus y mae'n ei weinyddu. Efallai y byddwn yn rhannu'r wybodaeth a ddarperir i ni gyda chyrff eraill sy'n gyfrifol am archwilio neu weinyddu arian cyhoeddus er mwyn atal a datgelu twyll. Am wybodaeth bellach, cyfeiriwch at rybudd preifatrwydd y Fenter Twyll Genedlaethol.

Dwi’n fyfyriwr – lle ddylwn i gofrestru?

Mae gan fyfyrwyr hawl i gofrestru gan ddefnyddio cyfeiriad eu cartref a’u cyfeiriad yn y brifysgol. Mae’n drosedd i bleidleisio fwy nag un waith mewn etholiad cenedlaethol ond fe gewch chi bleidleisio mewn etholiadau lleol, e.e. i ddewis cynghorydd lleol, yn y ddau gyfeiriad cyn belled â’u bod mewn ardaloedd pleidleisio gwahanol.

 

Dwi yn y Lluoedd Arfog – sut ddylwn i gofrestru?
Mae gwybodaeth ar gael ar wefan Fymhleidlaisi (Comisiwn Etholiadol).

 

Dwi’n Was y Goron, cyflogai’r Cyngor Prydeinig neu aelod o’r Lluoedd Arfog wedi fy lleoli dramor – ydw i’n cael cofrestru i bleidleisio?
Mae Gweision y Goron, cyflogeion y Cyngor Prydeinig ac aelodau’r Lluoedd Arfog sydd wedi eu lleoli dramor yn cael pleidleisio ym mhob etholiad ac felly angen cofrestru. Mae rhagor o wybodaeth ar gael ar wefan Fymhleidlaisi (Comisiwn Etholiadol).

 

Dwi wedi symud i fyw dramor yn ddiweddar. Ydw i’n dal i gael pleidleisio yn y Deyrnas Unedig?
Os ydych yn mynd dramor i fyw, gallwch gofrestru i bleidleisio mewn Etholiadau Seneddol ac Ewropeaidd yn y Deyrnas Unedig. Gallwch fyw dramor am hyd at 15 mlynedd a chadw'ch hawl i bleidleisio yn y Deyrnas Unedig, ond rhaid i chi lenwi ffurflen 'dramor' bob blwyddyn. Am ragor o wybodaeth ewch i wefan Fymhleidlaisi (Comisiwn Etholiadol)