Mesur Perfformiad
Rydym fel Cyngor yn cyhoeddi ein Hadroddiad Perfformiad Blynyddol er mwyn esbonio yn glir ac yn gytbwys, beth yr ydym wedi’i gyflawni dros y flwyddyn flaenorol.
Adroddiadau Perfformiad Blynyddol
Gweld Adroddiad Perfformiad Blynyddol 2023/24
Mae Adroddiad Perfformiad Blynyddol a Hunanasesiad Cyngor Gwynedd yn pwyso a mesur sut yr ydym wedi ymateb i’r blaenoriaethau yn ystod blwyddyn gyntaf Cynllun Cyngor Gwynedd 2023-28 gan hefyd roi trosolwg o berfformiad dydd i ddydd. Cyflwynir yr hunan-asesiad hefyd yn flynyddol a hynny o dan Deddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (2021)
Hunanasesiadau Cyngor Gwynedd
Gweld Hunanasesiad Cyngor Gwynedd 2023/24
Y Meysydd Blaenoriaeth o fewn yr Adroddiad Perfformiad Blynyddol a Hunanasesiad yw ein Hamcanion Llesiant dan Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru). Bydd yr Amcanion yn cyfrannu’n uniongyrchol at gyflawni’r saith nod llesiant cenedlaethol.
Cynhelir cyfarfodydd herio a chefnogi perfformiad ar lefel Adrannol bob yn ail fis, a maent yn canolbwyntio ar gynnydd prosiectau Cynllun y Cyngor, perfformiad gwasanaethau (sef y gwaith ‘dydd i ddydd’), a’r ymateb i’r prif risgiau o fewn y Gofrestr Risg Corfforaethol. Mae’r adrannau hefyd yn adrodd yn uniongyrchol ar eu perfformiad i’r Pwyllgorau Craffu yng nghylch Mehefin a’r Hydref.
Pwyllgorau Craffu
- Addysg ac Economi (Adrannau Addysg; Economi a Chymuned; Cyllid; Gwasanaethau Corfforaethol a Chyfreithiol)
- Cymunedau (Amgylchedd a Priffyrdd, Peirianneg ac YGC)
- Gofal (Oedolion, Iechyd a Llesiant; Plant a Chefnogi Teuluoedd a Tai ac Eiddo)
Adroddiadau Perfformiad a Hunanasesiadau Blaenorol sy’n adrodd ar Gynllun y Cyngor 2018-23
Mae gwaith y Cyngor yn cael ei archwilio gan gyrff allanol megis Archwilio Cymru, Estyn ac Arolygiaeth Gofal Cymru er mwyn mesur perfformiad. Ceir yr adroddiadau perthnasol ar eu gwefannau.
Cysylltu â ni
Os ydych angen yr Adroddiad Perfformiad Blynyddol mewn iaith neu fformat arall, cysylltwch â ni drwy ffonio 01766 771000 neu e-bostio CynllunCyngor@gwynedd.llyw.cymru