Cyngor Gwynedd yn amlinellu'r camau nesaf yn dilyn cyhoeddi'r adroddiad Cyfiawnder Trwy Ein Dewrder
Dyddiad: 12/11/2025
Wythnos ers cyhoeddi adroddiad ‘Cyfiawnder Trwy Ein Dewrder’ gan Fwrdd Diogelu Gogledd Cymru, mae Cyngor Gwynedd wedi atgyfnerthu ei ymrwymiad i weithredu ac wedi amlinellu’r camau nesaf bydd yr awdurdod yn eu cymryd fel na fydd yr un methiannau yn digwydd eto.
Mae adroddiad yr Adolygiad Ymarfer Plant (AYP) yn adnabod nifer o gyfleoedd a fethwyd gan Gyngor Gwynedd i atal y pedoffeil Neil Foden.
Mae Cyngor Gwynedd eisoes wedi derbyn holl gasgliadau’r adroddiad; yn cymryd cyfrifoldeb am fethiannau; yn ymddiheuro’n gwbl ddidwyll i’r holl ddioddefwyr; ac yn ymrwymo i barhau i weithio er mwyn gwella trefniadau diogelu'r sir.
Dywedodd y Cynghorydd Nia Jeffreys, Arweinydd Cyngor Gwynedd, ei bod yn cydnabod y cwestiynau sydd gan y cyhoedd am y methiannau sy’n cael eu hamlygu yn adroddiad yr AYP.
Eglurodd: “Rydym yn llwyr ddeall dymuniad y dioddefwyr a phobl y sir yn ehangach i weld newidiadau mor fuan â phosib.
“Fel Cabinet rydym wedi gofyn am sicrwydd gan Brif Weithredwr y Cyngor y bydd pob cam angenrheidiol ac addas yn cael ei gymryd i fynd i’r afael ag unrhyw achos o gamymddwyn neu fethiant i gyrraedd y gofynion statudol neu broffesiynol.
“Rydym wedi derbyn cadarnhad y bydd yr holl gyfleoedd a fethwyd i atal troseddu ffiaidd Neil Foden – gan gynnwys yr holl benderfyniadau, trefniadau a gweithredu dros y blynyddoedd – yn cael eu harchwilio yn gyflawn a thrwyadl gyda chefnogaeth arbenigwyr allanol.
“Byddwn yn gwneud popeth sy’n ddisgwyliedig o gorff cyfrifol sy’n cael ei ariannu gan drethdalwyr - pan nad yw pethau ddigon da, mae cyfrifoldeb arnom i gymryd pob cam y byddai pobl Gwynedd yn disgwyl i ni ei gymryd.”
Yn Ionawr 2025, mewn ymateb i’r troseddau hyn, mabwysiadodd Cyngor Gwynedd gynllun gweithredu i gryfhau gweithdrefnau mewn ysgolion ac yng ngwasanaethau’r Cyngor. Sefydlwyd bwrdd ymateb, o dan gadeiryddiaeth annibynnol yr Athro Sally Holland, i oruchwylio’r gwaith allweddol yma.
Ychwanegodd y Cynghorydd Nia Jeffreys:
“Mae’r wythnos ddiwethaf wedi bod yn gyfle i ni bori trwy gynnwys adroddiad yr AYP yn fanwl, i ddeall yn union beth aeth o’i le ac i ystyried sut y byddwn yn gweithredu ar argymhellion Bwrdd Diogelu Gogledd Cymru. Gyda nifer o’r argymhellion yn rhai cenedlaethol, ein dyhead yw bod ar flaen y gad a byddwn yn cydweithio'n agos â'r Bwrdd Diogelu, Llywodraeth Cymru ac eraill, gan gynnig treialu unrhyw ffyrdd newydd o weithio er budd plant Cymru.
“Ein cam nesaf yw llunio Cynllun Ymateb ar ei newydd wedd, ac mae’r gwaith hollbwysig yma wedi dechrau. Ni fyddwn yn cuddio o’n cyfrifoldeb i wneud popeth sydd ei angen i ddiogelu plant heddiw ac i’r dyfodol, a bydd cyfle i aelodau etholedig y Cyngor i herio a datgan eu barn ar y cynllun newydd mewn cyfres o Bwyllgorau Craffu.
“Diolch i’r Athro Sally Holland am gyflwyno ei hail adroddiad cynnydd i Gabinet y Cyngor ddoe (11 Tachwedd, 2025). Mae cyfraniad yr holl sefydliadau i waith y Bwrdd Ymateb yn amhrisiadwy.”