Cyfle olaf i roi eich barn ar Strategaeth Gwastraff ac Ailgylchu Cyngor Gwynedd
Dyddiad: 21/11/2025
Mae gan bobl Gwynedd ychydig dros wythnos ar ôl i fanteisio ar y cyfle i rannu eu barn ar ddrafft o Strategaeth Wastraff ac Ailgylchu Gwynedd.
Bydd yr ymgynghoriad yn cau ar 30 Tachwedd 2025, felly mae cyfle o hyd i bobl leol i ddweud eu dweud am y gwasanaethau fel y maen nhw rŵan a chlywed syniadau am y dyfodol.
Bydd y Cyngor yn ystyried yr ymatebion gan y cyhoedd cyn cytuno ar Strategaeth Wastraff ac Ailgylchu derfynol.
Dywedodd y Cynghorydd Craig ab Iago , Aelod Cabinet Cyngor Gwynedd dros Amgylchedd : “Diolch i’r nifer o bobl sydd eisoes wedi cymryd y cyfle i rannu eu barn dros yr wythnosau diwethaf.
“Mae’r rhan fwyaf ohonom yn gwneud defnydd o wasanaethau Gwastraff ac Ailgylchu’r Cyngor. Felly gyda ychydig dros wythnos ar ôl, dwi’n erfyn ar bawb sydd heb wneud hyd yma - o bob oed, o bob cefndir ac ym mhob rhan o’r sir - i fachu ar y cyfle i rannu eu barn.
“Bydd eich sylwadau yn bwysig iawn wrth i ni gytuno ar Strategaeth Wastraff ac Ailgylchu terfynol ar gyfer Gwynedd am y blynyddoedd i ddod.”
I gymryd rhan yn yr ymgynghoriad ac i ddarllen y Strategaeth ddrafft, ewch i wefan Cyngor Gwynedd: www.gwynedd.llyw.cymru/DweudEichDweud . Bydd copïau papur ar gael o Siopau Gwynedd a Llyfrgelloedd y sir, neu drwy ffonio 01766 771000.