Parcio am ddim yng Ngwynedd i annog siopa'n lleol y Nadolig hwn
Dyddiad: 25/11/2022
Fel rhan o ymdrechion i gefnogi busnesau lleol y Nadolig yma, bydd parcio am ddim ym meysydd parcio Cyngor Gwynedd ar ôl 11am bob dydd rhwng 10 a 27 Rhagfyr.
Mae’r Cyngor yn annog pobl Gwynedd i gefnogi busnesau lleol y sir dros gyfnod y Nadolig - cyfnod sydd mor allweddol i’r sector siopau ac adloniant.
Dywedodd y Cynghorydd Dafydd Meurig, Aelod Cabinet Amgylchedd y Cyngor:
“Rydan ni’n annog pobl i gefnogi’r busnesau bach sy’n asgwrn cefn canol ein trefi, yn lle mynd am dripiau siopa i’r dinasoedd mawr neu chwyddo coffrau’r corfforaethau mawr ar-lein.
“Fe gofiwn fod llawer o fusnesau lleol wedi mynd yr ail filltir i gefnogi’n cymunedau yn ystod y pandemig.
“Felly, os ydych chi’n chwilio am anrhegion arbennig, yn prynu bwyd a diod ar gyfer y tymor gwyliau neu’n paratoi at wledd i ddathlu – cofiwch am y cyfoeth o fusnesau bach a chrefftwyr yma yng Ngwynedd, a manteisiwch ar y parcio am ddim.”
Mae gwybodaeth am yr amrywiaeth o ddanteithion sydd ar gael o lawer iawn o fusnesau Gwynedd i’w gweld yma: www.visitsnowdonia.info/cy/siopau-cynnyrch-lleol
Bydd parcio am ddim ym meysydd parcio cyhoeddus Cyngor Gwynedd ar ôl 11am bob dydd rhwng 10 a 27 Rhagfyr, gyda ffioedd yn ail-gychwyn o 28 Rhagfyr.
Ymgyrch ym meysydd parcio cyhoeddus Cyngor Gwynedd ydi hwn. Bydd arwydd ar bob peiriant talu ac arddangos ym meysydd parcio cyhoeddus y Cyngor, felly os nad oes nodyn i’w weld, dylech wirio os ydi o’n faes parcio’r Cyngor.
Mae lleoliad holl feysydd parcio Cyngor Gwynedd ar gael ar ein gwefan: www.gwynedd.llyw.cymru/parcio
NODYN:
Dylai unrhyw un sy’n parcio mewn maes parcio sy’n eiddo i gorff arall wirio’r trefniadau yn ofalus cyn parcio gan ei bod yn bosib na fydd parcio am ddim ar gael yno.