Cyngor Gwynedd i fabwysiadu Siarter y Gymraeg yn y Gwaith
Dyddiad: 17/12/2025
Mae Cyngor Gwynedd wedi atgyfnerthu ymhellach ei enw da fel corff sy’n arwain y ffordd i greu diwylliant sy’n rhoi’r Gymraeg yn ganolog i’w waith wedi i’r Cabinet gytuno i fabwysiadu Twf – Siarter y Gymraeg yn y Gwaith.
Bydd y Cyngor nawr yn symud ymlaen i fabwysiadu’r Siarter yn ffurfiol ar y cyd gyda Cyngres Undebau Llafur Cymru (TUC Cymru) a chynrychiolwyr lleol o undebau Unsain, GMB ac Unite.
Mae TUC Cymru wedi datblygu a mabwysiadu Siarter Twf, sydd yn cefnogi gweithwyr, eu hundebau llafur a chyflogwyr i gydweithio i greu gweithleoedd dwyieithog. Mae pwyslais penodol hefyd ar sicrhau cynnydd yn nefnydd y Gymraeg yn y gwaith ac ar sicrhau fod gan weithwyr fynediad i gynrychiolaeth gan undebau llafur yn eu dewis iaith.
Wrth gytuno i fabwysiadu ac arwyddo’r siarter, mae’r undebau llafur a Chyngor Gwynedd fel cyflogwr yn ymrwymo i gydweithio ar sail pedair egwyddor graidd, sef:
- Twf a hawliau’r Gymraeg – ymrwymiad i dyfu’r Gymraeg yn y gweithle.
- Cynhwysiant a chyfiawnder ieithyddol – creu diwylliant gwaith sydd yn gefnogol i ddefnyddio’r Gymraeg.
- Arweinyddiaeth ac atebolrwydd – gwreiddio ethos a diwylliant dwyieithog gweladwy a chynhwysol.
- Dysgu parhaus a meithrin hyder – rhoi cefnogaeth barhaus i staff ddysgu a gwella eu sgiliau Cymraeg.
Mae hybu defnydd o’r Gymraeg gan staff – a sicrhau fod pob gwasanaeth ar gael drwy gyfrwng y Gymraeg – yn un o flaenoriaethau’r Cyngor ers ei sefydlu. Caiff hyn ei adlewyrchu yng Nghynllun y Cyngor, ym mholisi iaith yr awdurdod a’r ffaith fod 99.1% o staff y Cyngor yn meddu ar sgiliau yn y Gymraeg.
Dywedodd y Cynghorydd Llio Elenid Owen, Aelod Cabinet Cyngor Gwynedd sydd a chyfrifoldeb dros yr Iaith Gymraeg:
“Mae gan Gyngor Gwynedd hanes hir a balch o hyrwyddo’r iaith Gymraeg ym mhob agwedd o fywyd ac mae cytuno i fabwysiadu Twf, sef Siarter y Gymraeg yn y Gwaith, yn gam arall ar y daith hon.
“Rydym yn croesawu fod TUC Cymru wedi penderfynu mabwysiadu’r siarter hon fel dull o genhadu pwysigrwydd y Gymraeg i ddyfodol economaidd Cymru ac er mwyn sicrhau fod cyflogwyr yn gynrychioladol o’r gymdeithas. Gobeithiwn y bydd sefydliadau eraill yn dilyn Cyngor Gwynedd wrth fabwysiadu’r siarter.
“Mae’n newyddion da iawn fod Cyngor Gwynedd yn gallu cydweithio gyda’r undebau llafur er mwyn sicrhau fod gweithwyr yn cael eu cynrychioli trwy’r Gymraeg. Mae’r egwyddorion hyn yn dangos yr ymrwymiad i weithio mewn partneriaeth wrth ddarparu gweithle ddwyieithog gynhwysol ac i hyrwyddo a galluogi’r twf yn y defnydd o’r Gymraeg yn y gwaith.”