Ysbryd y Nadolig ymhlith staff casglu gwastraff

Dyddiad: 20/12/2023

Mae gweithlu casglu gwastraff ac ailgylchu’r Cyngor yn ardal Arfon wedi bod yn brysur yn ddiweddar yn trefnu i gasglu teganau a raffl er budd plant a phobl ifanc sy’n derbyn cefnogaeth gan wasanaeth Derwen.

Mae Derwen, Tîm Integredig Plant Anabl, yn gweithio gyda phlant a phobl ifanc 0 - 18 oed yng Ngwynedd, ac yn darparu cefnogaeth arbenigol i blant ag amhariad neu oediad yn eu datblygiad, anabledd â gwaeledd.

 

Bu’r criw casglu, sydd wedi eu lleoli yn eu depo ar Stad Cibyn wrthi’n rhoi raffl at ei gilydd ac wedi casglu cryn dipyn o arian i allu rhoi anrhegion i’r plant dros y Nadolig.

 

Meddai’r Cynghorydd Dafydd Meurig, Aelod Cabinet Amgylchedd Cyngor Gwynedd:

“Rwyf yn hynod o falch o weld fod staff casglu Cyngor Gwynedd wedi dangos eu caredigrwydd tuag at blant a phobl ifanc sydd yn derbyn cefnogaeth gan wasanaeth Derwen drwy fynd ati i drefnu o’u gwirfodd eu hunain i gasglu arian a thegannau. Hoffwn ddiolch i bawb sydd wedi bod ynglwm â’r ymdrech arbennig yma a dw i’n siwr y bydd Gwasanaeth Derwen a’r plant yn elwa o’u caredigrwydd”

 

Mae’n glir fod ysbryd y Nadolig yn fyw iawn ymhlith gweithlu casglu gwastraff ac ailgylchu’r Cyngor.