Llwyddiant i wasanaeth o Wynedd yng Ngwobrau Techfest 2023

Dyddiad: 21/12/2023

Mae YGC (Ymgynghoriaeth Gwynedd Consultancy) wedi dod i’r brig yng nghategori Defnydd Gorau o Dechnoleg: Casglu Data Clyfar ar gyfer Rheoli Asedau yng Ngwobrau TechFest 2023.

 

Daeth y wobr hon yn dilyn adolygiad wyneb yn wyneb gan banel o 30 o feirniaid blaenllaw yn y diwydiant a gynhaliwyd seremoni Gwobrau TechFest o flaen cynulleidfa o’r diwydiant ar 23 Tachwedd yn yr Hilton Bankside Llundain.

 

Daeth y digwyddiad, a oedd yn dathlu ei chweched flwyddyn eleni, mwy na 300 o fynychwyr ynghyd o bob rhan o’r diwydiant peirianneg sifil a hynny am ddiwrnod llawn o wybodaeth dreiddgar a noson o ddathlu, cydnabod a rhwydweithio. Roedd hyn yn cynnwys cleientiaid, contractwyr, ymgynghorwyr, penseiri, darparwyr technoleg flaenllaw, arloeswyr a busnesau newydd.

 

Dywedodd Belinda Smart, dirprwy olygydd New Civil Engineer:

 

“Ar ôl darllen trwy’r holl geisiadau sydd wedi ennill gwobrau ar gyfer Gwobrau TechFest eleni, mae’n amlwg bod safon y ceisiadau eleni yn eithriadol. Dylai pawb ar y rhestr fer fod yn falch o gyrraedd y cam hwn.

 

“Mae gan y gwaith arloesol a ddathlwyd gennym yn TechFest rôl allweddol wrth greu byd gwell i bawb; boed hynny trwy leihau allyriadau carbon, defnyddio deunyddiau mewn ffordd fwy effeithlon neu gynyddu cynhyrchiant safleoedd.”

 

Dywedodd y Cynghorydd Berwyn Jones, Aelod Cabinet Cyngor Gwynedd sy’n gyfrifol am Wasanaeth Ymgynghoriaeth Gwynedd:

 

“Roedd beirniaid TechFest o’r farn fod y defnydd o dechnoleg i fonitro llifogydd, fel rhan o Gynllun Amddiffyn Rhag Llifogydd Y Felinheli, yn haeddiannol iawn o’r wobr. Fel rhan o’r prosiect, gosododd tîm Dŵr ac Amgylchedd YGC (Robin Perkins, Elen Williamson ac Emyr Gareth) system ddiwifr, yn defnyddio technoleg LoRaWAN, er mwyn monitro lefel y llanw yn yr Afon Menai. Trwy gymharu'r lefel yn Y Felinheli gyda’r offer rhybuddio llifogydd yng Nghaergybi, roedd yn bosib symleiddio’r broses o benderfynu pryd i gau gatiau llifogydd Y Felinheli - gwaith sy’n cael ei wneud gan dîm o Wardeniaid Llifogydd gwirfoddol.”

“Rhan hanfodol arall o’r prosiect oedd gwaith tîm Technoleg Gwybodaeth Cyngor Gwynedd (Llŷr Owen Jones ac Elfyn Evans) a sefydlodd system i dderbyn a chofnodi'r data o’r synhwyrydd llanw. Mae’r data yma ar gael ar unrhyw adeg o’r dydd a’r nos i Wardeniaid Llifogydd Y Felinheli ac i Swyddogion YGC.”

“Roedd y beirniaid yn ganmoliaethus o agwedd gymunedol y prosiect ac o’r farn y gellid dyblygu’r gwaith mewn lleoliadau tebyg o amgylch yr arfordir. Mae gwaith wedi cychwyn yn barod i edrych os gall y dechnoleg gael ei ddefnyddio i reoli risg llifogydd ym Mhorthdinllaen ger Nefyn.

“Llongyfarchiadau mawr i Wasanaeth Ymgynghoriaeth Gwynedd am eu llwyddiant. Mae mor braf gweld cydnabyddiaeth am yr holl waith caled mae gweithwyr y gwasanaeth yn ei gyflawni yma yng Ngwynedd.”

Dywedodd Colin Marrs, golygydd Construction News:

“Mae Gwobrau a chynhadledd TechFest 2023 yn rhoi darlun o ddiwydiant adeiladu a pheirianneg sy’n wirioneddol yn dod i oed ar dechnoleg. Rydym ar bwynt tyngedfennol cyffrous ar gyfer ei mabwysiadu sy’n hybu cynhyrchiant ac yn helpu cwmnïau i godi safonau – o ddylunio i logisteg i ddiogelwch – yn uwch nag erioed o’r blaen.”

“Rwy’n llongyfarch yr holl enillwyr heno. Mae pob cwmni ac unigolyn ar y rhestr fer yn mynd â’r diwydiant i lefel newydd a dylent fod yn falch o’u cyflawniadau.”

Am ragor o wybodaeth am waith YGC dilynwch y gwasanaeth ar Facebook, X neu ewch draw i wefan y gwasanaeth https://ygc.cymru/