Cyhoeddiad ariannol yn ergyd drom i Gyngor Gwynedd

Dyddiad: 20/12/2023

Mae Cyngor Gwynedd yn rhybuddio fod gwasanaethau lleol hanfodol dan fygythiad ac na fydd dewis ond codi Treth y Cyngor o Ebrill 2024 ymlaen oherwydd diffyg difrifol yn yr arian y bydd y Sir yn ei dderbyn gan Lywodraeth Cymru.

Daw hyn yn dilyn cyhoeddiad Llywodraeth Cymru heddiw (20/12/2023) sy’n cadarnhau y bydd Cyngor Gwynedd yn derbyn cynnydd setliad o £4miliwn mewn cymhariaeth â chynnydd gwariant ychwanegol oherwydd pwysau galw a chwyddiant o £23miliwn. Mae rhybuddion hefyd y bydd y sefyllfa’n gwaethygu eto dros y ddwy flynedd i ddilyn.

Ar gyfer y flwyddyn ariannol o Ebrill 2024 ymlaen, bydd setliad Cyngor Gwynedd gan Lywodraeth Cymru y cyd-isaf o’r 22 cyngor Cymreig. Mae’r ffaith fod poblogaeth Gwynedd wedi gostwng yn fwy na’r un awdurdod arall yn rhan sylweddol o’r rheswm am hyn.

Dywedodd y Cynghorydd Dyfrig Siencyn, Arweinydd Cyngor Gwynedd:

“Mae’r cyhoeddiad yma yn ergyd drom i lywodraeth leol ac i Wynedd yn arbennig. Tra ein bod yn ddiolchgar i Weinidog Cyllid Cymru am osod llawr ariannol o 2%, Gwynedd fydd yn derbyn y cyfraniad lleiaf tuag at y gost o gynnal ein gwasanaethau lleol. Rydym wedi rhybuddio ers peth amser fod cymylau duon ar y gorwel. Heb amheuaeth, gyda’r cyhoeddiad yma mae’r storm ar fin torri. 

“Fel Cyngor, rydym wedi dioddef dros 12 mlynedd o grebachu ariannol. Mewn ymateb rydym eisoes wedi gwireddu bron i £70miliwn o arbedion ers 2010 drwy gyflwyno ffyrdd mwy effeithlon a newydd o weithio. Drwy hyn oll rydym wedi amddiffyn gwasanaethau rheng flaen i’n trigolion mwyaf bregus.

“Yn amlwg byddwn yn parhau i chwilio am bob cyfle posib i osgoi toriadau llym fydd yn cael eu teimlo ar lawr gwlad. Ond, gyda’r cyhoeddiad diweddaraf yma, rydym wedi cyrraedd pen draw’r hyn sy’n bosib heb dorri gwasanaethau a chodi’r dreth Cyngor.”

Er gwaethaf blynyddoedd o setliadau ariannol gwael, mae Cyngor Gwynedd wedi llwyddo i amddiffyn y gwasanaethau mae pobl a phlant mwyaf bregus y sir yn dibynnu arnynt. Mae’r Cyngor wedi gwneud hyn drwy gyfuniad o gynllunio ariannol gofalus ac ymdrech parhaus i wireddu arbedion effeithlonrwydd.

Ar yr un pryd, ochr yn ochr a chwyddiant, mae’r galw am wasanaethau allweddol a statudol yng Ngwynedd wedi cynyddu’n sylweddol. Er enghraifft:

  • mae’r nifer o bobl sydd wedi cyflwyno’n ddigartref yng Ngwynedd wedi codi 35% ers 2018/19;
  • mae nifer y cyfeiriadau at wasanaethau iechyd meddwl Gwynedd wedi cynyddu i 5,565 yn 2022/23 – cynnydd o dros 2,000 ers 2019/20 ac mae’r niferoedd yn parhau i gynyddu;
  • mae nifer y cyfeiriadau i Adran Plant a Chefnogi Teuluoedd Gwynedd wedi cynyddu i 7,175 yn 2022/23 – cynnydd o dros 2,500 ers 2019/20 ac mae’r niferoedd yn parhau i gynyddu;
  • mae nifer y cyfeiriadau i Adran Oedolion, Iechyd a Llesiant Gwynedd wedi cynyddu i 4,558 yn 2022/23 – cynnydd o dros 400 rhwng 2020/21 a 2022/23. Mae disgwyl y bydd y tueddiad yma’n parhau yn sgil rhagolygon sy’n darogan cynnydd o oddeutu 23% yn nifer y bobl sydd dros 85 oed yn y Sir dros y 10 mlynedd nesaf;
  • cynnydd sylweddol mewn ceisiadau am gefnogaeth i blant sydd ag Anghenion Dysgu Ychwanegol;
  • cynnydd sylweddol mewn costau darparu cludiant i ddisgyblion.

 Ychwanegodd y Cynghorydd Ioan Thomas, Aelod Cyllid ar Gabinet Cyngor Gwynedd:

“Mae gan Gyngor Gwynedd enw da am fyw o fewn ein cyllideb. Mae’r ffordd yma o weithio wedi ein cynnal drwy Gyfnod y Llymder, Brexit, Covid a’r daeargryn ariannol a achoswyd gan benderfyniadau Liz Truss pan yn Brif Weinidog.  

“Halen yn y briw ydi’r newyddion diweddaraf hyn a ninnau wedi dygymod ers degawd a mwy gyda chyfres o argyfyngau sydd wedi erydu ein gallu fel Cyngor i ddarparu gwasanaethau ar yr union amser pan mae’r costau a’r galw arnom wedi saethu i fyny.

“Ar drothwy’r Nadolig, mae’n hynod anffodus gorfod meddwl am ofyn i bobl Gwynedd gyfrannu mwy trwy’r Dreth Cyngor tra ar yr un pryd yn edrych i dorri’r gwasanaethau maent yn dibynnu arnynt yn ddyddiol. Ond, fel cynghorau drwy Gymru a gweddill gwledydd Prydain, dyma’r gwirionedd fydd yn wynebu Gwynedd yn y gwanwyn oherwydd penderfyniadau gan lywodraeth ganolog sydd y tu hwnt i’n rheolaeth.”

 

Nodiadau:

Mae gan Gyngor Gwynedd dri dewis ar gyfer lleihau’r diffygion ariannol yn 2024/25:

  • cynyddu Treth Cyngor – bydd pob 0.5% o gynnydd mewn Treth Cyngor yn arwain at leihad o £450,000 yn y diffyg;
  • cyflawni arbedion ychwanegol y tu hwnt i’r £39.1miliwn a gyflawnwyd ers 2015 a thoriadau mewn gwasanaethau;
  • cynyddu’r taliadau mae’r Cyngor yn eu codi ar drigolion am wasanaethau penodol.

Bydd yr holl ddewisiadau hyn yn cael eu hystyried yn ofalus dros y misoedd nesaf sy’n arwain at Gyfarfod y Cyngor Llawn ym mis Mawrth 2024 pan fydd Cyngor Gwynedd yn gosod ei gyllideb ar gyfer blwyddyn ariannol 2024/25.