Holi barn pobl Gwynedd am flaenoriaethau'r Cyngor dros y bum mlynedd nesaf

Dyddiad: 09/12/2022
AdobeStock_545333570

Mae Cyngor Gwynedd yn awyddus i glywed barn pobl leol ar Gynllun y Cyngor 2023-28, sef gweledigaeth a bwriad yr awdurdod ar draws ystod o feysydd gwaith. 

Mae Cynllun y Cyngor yn cynnwys nifer o brosiectau uchelgeisiol, er enghraifft trawsnewid addysg blynyddoedd cynnar, sicrhau cartrefi addas i bobl leol, ail ddylunio gwasanaethau gofal ac ymateb yn gadarnhaol i’r argyfwng newid hinsawdd.

Bwriad y Cyngor yw cyflwyno’r prosiectau hyn rhwng 2023 a 2028, ond cyn mabwysiadu’r cynllun mae’r Cyngor yn awyddus i gael mewnbwn trigolion.

Dywedodd Arweinydd Cyngor Gwynedd, y Cynghorydd Dyfrig Siencyn: “Rydym yn benderfynol o barhau i ddarparu’r gwasanaethau gorau bosib i bobl Gwynedd, ond bydd angen i ni fod yn hyblyg a dyfeisgar gan ein bod hefyd yn wynebu toriadau ariannol sylweddol iawn dros y blynyddoedd nesaf.

“Nod y cynllun yma ydi sicrhau ein bod yn canolbwyntio’n hymdrechion a’n hadnoddau ar brosiectau fydd yn dod a’r budd mwyaf i bobl Gwynedd.

“Er mwyn i ni gael darlun llawn o anghenion ein trigolion, rydw i’n  annog unrhyw unigolyn,  sefydliad neu gymuned sy’n derbyn gwasanaeth gan Gyngor Gwynedd i fanteisio ar y cyfle i ddweud eu dweud.”

Bydd yr holl sylwadau a gyflwynir yn cael eu hystyried yn ofalus cyn i aelodau’r Cyngor llawn benderfynu ar Gynllun y Cyngor ar gyfer 2023-28 yn y flwyddyn newydd.

Gallwch roi eich barn drwy gwblhau holiadur byr ar-lein ar www.gwynedd.llyw.cymru/YmgynghoriCynllunyCyngor

Bydd copïau papur hefyd ar gael yn eich llyfrgell a Siop Gwynedd leol. Os am gopi papur trwy’r post, cysylltwch gyda’r Cyngor ar e-bost cynlluncyngor@gwynedd.llyw.cymru neu ffonio 01766 771000. Mae’r ymgynghoriad ar agor tan 3 Ionawr, 2023.