Gweithio mewn Partneriaeth: Ailosod Pont Bryn Llestair, Aberdyfi

Dyddiad: 15/12/2022
Pont

Yn ddiweddar gosodwyd strwythur newydd sbon i gymryd lle hen bont Bryn Llestair, Aberdyfi – sy’n cael ei adnabod yn lleol hefyd fel bont Ynys Picnic – wedi iddi fod ar gau ers rhai blynyddoedd oherwydd ei chyflwr gwael a pheryglus.

Mae’r bont newydd modern, sydd yn croesi rheilffordd y Cambrian, yn galluogi pobl leol ac ymwelwyr i wneud defnydd llawn unwaith eto o lwybr sy’n cysylltu Aberdyfi â’r bryniau cyfagos.

Er mwyn gyrru’r prosiect yn ei flaen fe ffurfiwyd grŵp o bartneriaid a oedd yn cynnwys Cyngor Gwynedd, yr Outward Bound, Cyngor Cymuned Aberdyfi, AA&I, Grŵp Gweithredu Lleol Pysgodfeydd Bae Ceredigion (FLAG) ac Network Rail. Roedd y grŵp yn cyfarfod yn gyson i sicrhau bod y prosiect yn cael ei gwblhau – er gwaethaf heriau COVID-19.

Meddai’r Cynghorydd Nia Jeffreys, Aelod Cabinet Economi a Chymuned Cyngor Gwynedd:

“Ar ran Cyngor Gwynedd hoffwn ddiolch yn fawr i bawb sydd wedi bod ynghlwm gyda phrosiect Pont Bryn Llestair. Mae’n wych gweld sut mae pawb wedi cyd-weithio mewn modd mor effeithiol er mwyn gwireddu’r amcan o osod pont newydd modern ar y safle.

“Dwi’n gobeithio bydd trigolion lleol ac ymwelwyr i’r ardal yn cael budd o’r bont newydd am flynyddoedd i ddod.”

 

Lluniau:

1 – Ailosod bont Bryn Llestair, sy’n cael ei adnabod yn lleol hefyd fel bont Ynys Picnic, Aberdyfi

2 – Y bont newydd yn ei le.