Cyngor Gwynedd yn cynnig helpu drwy'r argyfwng costau byw

Dyddiad: 23/12/2022

Mae Cyngor Gwynedd wedi creu ‘siop-un-stop’ ar-lein o wybodaeth ddefnyddiol ynghylch biliau cartref, budd-daliadau a mwy fel rhan o ymgyrch i sicrhau fod pobl leol yn cael yr help maent yn gymwys amdano ac yn dygymod efo’r argyfwng costau byw dros y gaeaf heriol hwn.

Yn ystod yr hydref, cyhoeddodd Cyngor Gwynedd becyn gwerth £193,000 o fesurau hyd at fis Mawrth 2023 i helpu teuluoedd i gael bwyd ar y bwrdd a chadw’n gynnes.

Nawr ein bod yng nghanol y gaeaf, gyda phrisiau popeth wedi cynyddu a’r tymheredd wedi gostwng, mae’n amserol i atgoffa pobl Gwynedd o’r cymorth sydd ar gael.

Mae’r holl wybodaeth ar gael ar www.gwynedd.llyw.cymru/CymorthCostauByw

Gall unrhyw un ohonom fynd ar ei hôl hi gyda biliau, ond tydi hi byth yn rhy hwyr i ofyn am help a chyngor. Gall pobl nad oes ganddynt fynediad i’r we gartref ddefnyddio’r cyfrifiaduron sydd ar gael am ddim yn holl lyfrgelloedd Gwynedd i fynd i’r wefan yma. Mae’r wybodaeth ar gael hefyd mewn newyddlen a ddosbarthwyd i gartrefi’r sir ym mis Tachwedd ac mae copïau ar gael o hyd yn nerbynfeydd Siop Gwynedd ac yn llyfrgelloedd y sir.

Dywedodd Arweinydd Cyngor Gwynedd, y Cynghorydd Dyfrig Siencyn:

“Mae codiadau anferthol mewn prisiau a chyfraddau morgeisi yn ergyd drom i deuluoedd ar draws Gwynedd a’r sefyllfa wedi dirywio’n gyflym. Mae pobl nad ydyn nhw erioed wedi profi trafferthion yn y gorffennol yn methu â thalu eu biliau ac mae’r rheini a oedd eisoes mewn anawsterau wedi cael eu rhoi mewn sefyllfa amhosib.

“Gall yr adeg yma o’r flwyddyn fod yn arbennig o heriol hefyd, gyda chostau ychwanegol o orfod gwresogi’r cartref dros yr ŵyl a’r pwysau ar deuluoedd i fedru dathlu’r Nadolig.

“Law yn llaw â mesurau mwy hirdymor fel buddsoddi mewn cynlluniau tai, rydan ni wedi creu’r adnodd ar wefan y Cyngor sy’n crynhoi’r cyfan y gallwn ni ei gynnig mewn un lle.

“Dw i’n pwyso ar bawb i gymryd ychydig funudau i edrych ar y dudalen ar y wefan er mwyn sicrhau eich bod chi a’ch teulu yn derbyn yr holl gymorth, cefnogaeth a chyngor ymarferol mae gynnoch chi hawl iddyn nhw.”

Yn ogystal â’r wybodaeth ar wefan Cyngor Gwynedd, mae’r Cyngor wedi penodi swyddogion i helpu pobl ddygymod â’r argyfwng costau byw.

Mae Chloe Roberts a Victoria Jones yn helpu i gyfeirio pobl at y cymorth sydd ar gael, er enghraifft wedi trefnu sesiynau galw heibio mewn cymunedau ar draws Gwynedd, gan weithio gyda grwpiau lleol i helpu sicrhau bod bwyd fforddiadwy ar gael i bawb sydd ei angen mewn argyfwng. Maent hefyd wedi helpu i ddatblygu rhwydwaith o ganolfannau ‘Croeso Cynnes’ i drigolion bregus gadw’n gynnes y gaeaf yma. Mae gwybodaeth am y lleoliadau hefyd ar y dudalen ar y wefan.

Mae Ffion Haf a Meilyr Tomos, Gynghorwyr Ynni yn brysur yn cribinio drwy’r holl gynigion a chyfleoedd sydd ar gael yn y maes er mwyn helpu pobl i ddarganfod beth sy’n berthnasol iddyn nhw. Gellir hyn fod yn gyfeiriad at gynllun gwella effeithlonrwydd ynni tŷ, neu’n help tymor byr i’w helpu drwy’r gaeaf yma. Mae’r ddau yn cydweithio gyda nifer fawr o bartneriaid yn y maes ac yn ceisio treulio eu hamser allan yn y gymuned pob cyfle posib.