Croeso cynnes mewn lleoliadau ar draws Gwynedd

Dyddiad: 20/12/2022
Logo Croeso Cynnes

Mae Cyngor Gwynedd am atgoffa pobl leol am y rhwydwaith o lefydd diogel ble bydd croeso cynnes i dreulio amser y gaeaf hwn, diolch i garedigrwydd busnesau a sefydliadau lleol.

Oherwydd y cyfuniad o’r argyfwng costau byw a’r tywydd oer diweddar, mae’n debyg y fod nifer fawr o bobl Gwynedd yn ei chael yn anodd i gael dau ben llinyn ynghyd.

Lansiwyd y cynllun Croeso Cynnes ym mis Hydref er mwyn cynnig lloches gynnes yn rhad ac am ddim i bobl. Mae’n bwysicach nag erioed fod pobl yn gwybod am fodolaeth lleoliadau Croeso Cynnes wrth i’r cynnydd mewn costau ynni frathu a phobl yn gorfod gwneud penderfyniadau anodd rhwng prynu hanfodion a gallu talu biliau.

Mae lleoliadau Croeso Cynnes ar y map ar wefan Cyngor Gwynedd www.gwynedd.llyw.cymru/CroesoCynnes. Gall sefydliad neu berchennog busnes sy’n awyddus i gynnig gofod addas a chynnes gofrestru trwy’r wefan hefyd.

Mae Cyngor Gwynedd yn gweithio ar y cyd â Menter Môn, Medrwn Môn a Chyngor Sir Ynys Môn i weinyddu’r cynllun ac mae llu o fusnesau a sefydliadau lleol eisoes yn cynnig i bobl gael mynd yno i gadw’n gynnes a chael cyfle am sgwrs. Mae rhai o leoliadau sy’n gysylltiedig â Chyngor Gwynedd hefyd ar y rhestr, gan gynnwys llyfrgelloedd, Storiel Bangor a chanolfannau hamdden y sir.

Dywedodd y Cynghorydd Nia Jeffreys, Dirprwy Arweinydd Cyngor Gwynedd: “Rŵan fod y tywydd wedi oeri dwi’n gwybod bydd costau trydan a nwy yn boen meddwl i nifer fawr o bobl, ac mae’n ddychrynllyd meddwl y bydd rhai yn gorfod dewis rhwng rhoi’r gwres mlaen neu brynu bwyd.

“Felly dwi’n ddiolchgar i’r holl grwpiau a busnesau sydd wedi cofrestru ac yn cynnig i bobl ddod acw i gadw’n gynnes. Gobeithio bydd yn helpu pobl sy’n poeni am effaith yr oerfel ar iechyd corfforol a meddyliol.

“Dwi’n annog pobl i ddod at ei gilydd a gwneud yn mwyaf o’r ymdrech gymunedol hon. Peidiwch a dioddef ar ei pen eich hun pan mae llefydd diogel a chynnes ar gael i chi.”

Dywedodd Lisa Markham, Cymhorthydd Llyfrgell a Gwybodaeth yn Llyfrgell Tywyn, un o’r lleoliadau sy’n cynnig Croeso Cynnes: “Mewn cyfnod o ansicrwydd ac argyfwng costau byw, mae croeso cynnes i bawb yma yn Llyfrgell Tywyn ac ymhob llyfrgell yng Ngwynedd.

“Rydym yn ffodus iawn hefyd i fod wedi derbyn rhoddion hael gan ddefnyddwyr megis te, coffi a bisgedi er mwyn cyfrannu at yr achos. Diolch yn fawr i bawb am eich haelioni.”

Ychwanegodd un o ddefnyddiwr Llyfrgell Tywyn: “Y Llyfrgell yw fy man hapus, sy'n cael ei wneud yn well byth gan y staff gwych yma. Heb Lisa byddai cyfnod Covid wedi bod yn llawer mwy trawmatig. Diolch yn fawr i'r holl lyfrgellwyr am eu gwaith.

“Mae dyfyniad gan yr awdur Americanaidd Barbara Kingslover yn crisialu fy nheimladau i'r dim fel person anabl sy'n byw ar fy mhen fy hun, lle mae’n dweud y byddai am gofleidio pob llyfrgellydd mae’n dod ar ei thraws, ar ran pob enaid mae’n nhw wedi eu hachub yn ddiarwybod iddyn nhw eu hunain.”

Un elfen mewn pecyn cymorth ehangach gan Gyngor Gwynedd mewn ymateb i’r argyfwng costau byw ydi’r cynllun Croeso Cynnes. Mae’r Cyngor yn awyddus i sicrhau fod pobl leol yn derbyn yr holl gymorth, cefnogaeth a chyngor ymarferol maent yn gymwys amdano. Mae ‘siop-un-stop’ syml ar wefan y Cyngor sy’n crynhoi’r holl gymorth mae’r Cyngor yn ei gynnig mewn un lle, er enghraifft cyngor ar fudd-daliadau, gwybodaeth am ynni yn y cartref a manylion cyswllt sefydliadau eraill sy’n gallu helpu. Anogir pobl leol i fwrw golwg dros y dudalen er mwyn sicrhau eu bod yn derbyn yr holl gymorth, cefnogaeth a chyngor ymarferol sydd ar gael. Ewch i’r wefan: www.gwynedd.llyw.cymru/CymorthCostauByw  

Nodiadau

Mae cynllun Croeso Cynnes wedi ei gyllido drwy Hybiau Cynnes, Llywodraeth Cymru a Cymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru - Rhaglen Datblygu Wledig Cymru 2014-2020 sy’n cael ei ariannu gan Lywodraeth Cymru a Chronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig, gyda chyfraniad gan Gronfa Elusennol Ynys Môn.