Bod yn ddiogel ar eich ffordd adref

Dyddiad: 16/12/2022

Mae Cyngor Gwynedd yn annog pobl i fod yn wyliadwrus o yrwyr tacsi ffug wrth ddathlu bwrlwm y Nadolig a’r flwyddyn newydd.

 

Wrth i bobl fwynhau partïon Nadolig, neu ymweld â theulu a ffrindiau, mae’n debyg mai’r peth diwethaf ar eu meddyliau fydd sut maent am ddychwelyd adref. Ond mae Cyngor Gwynedd yn annog pobl i sicrhau eu bod yn defnyddio tacsis dilys sydd wedi eu trwyddedu.

 

Y prif bethau i’w cofio wrth ddal tacsi adref ydi:

- Dim ond cerbydau Hacni y cewch eu stopio ar y stryd. Dylai’r cerbydau yma ddangos plât glas ar flaen ac ar gefn y car

- Rhaid trefnu tacsi preifat o flaen llaw, mae’r car yn arddangos plât melyn ar y blaen a’r cefn. Mae llun siâp hanner lleuad ar ddrws y cerbyd

- Rhaid i bob gyrrwr trwyddedig fod â cherdyn adnabod Cyngor Gwynedd yn eu meddiant

 

Gwiriwch y manylion hyn cyn mynd i mewn i’r car. Nid yw gyrrwr sydd heb drwydded wedi ei archwilio gan Gyngor Gwynedd ac mae’n bosib iawn na fydd gan y gyrrwr yr yswiriant cywir.

 

Dywedodd y Cynghorydd Dafydd Meurig, Aelod Cabinet Amgylchedd Cyngor Gwynedd: “Rydan ni’n awyddus i drigolion fwynhau eu hunain mewn modd diogel dros gyfnod yr ŵyl. Ein cyngor fyddai i drigolion sicrhau fod gan dacsi'r bathodyn a’r platiau cywir cyn derbyn pas.

 

“Mae cael eich cludo mewn tacsi sydd heb ei drwyddedu gyfystyr a mynd mewn car efo dieithryn. Mae’n bwysig fod pobl yn diogelu eu hunain, yn enwedig os ydynt wedi bod yn yfed alcohol. Mae peryg hefyd fod tacsis heb eu trwyddedu yn tan brisio busnesau cyfreithlon.”

 

Dyma ffyrdd eraill o sicrhau eich bod yn aros yn ddiogel dros gyfnod y gwyliau:

- Gwnewch yn siwr fod rhif ffôn cwmni tacsi rydych yn ymddiried ynddo gennych bob amser

- Trefnwch dacsi o flaen llaw os gallwch. Gofynnwch am enw’r gyrrwr ac am liw a gwneuthuriad y cerbyd

- Gwiriwch y manylion hyn pan mae’r tacsi yn cyrraedd, a’i hwn yw’r cerbyd iawn?

- Os ydych yn ffonio am dacsi mewn man cyhoeddus, gwnewch yn siwr nad oes neb yn clywed beth yw eich enw a’ch cyfeiriad - gall unrhyw un smalio i fod yn yrrwr tacsi

- Os ydych allan mewn criw, gwnewch yn siwr fod gan bawb ffordd ddiogel o gyrraedd adref. Os yw rhywun yn eich criw wedi yfed gormod, anfonwch hwy at y tacsi a gwnewch yn siwr ei fod wedi ei drwyddedu

- Mae rhannu tacsi efo ffrindiau bob amser yn syniad da

 

Os ydych yn bryderus am unrhyw gerbyd sy’n honni i fod yn dacsi yng Ngwynedd, cysylltwch gydag Uned Trwyddedu Cyngor Gwynedd drwy ebostio trwyddedu@gwynedd.llyw.cymru neu ffonio 01766 771000.