Atafaelu cynhyrchion tybaco anghyfreithlon yng Ngwynedd

Dyddiad: 23/12/2022

Mae Uned Safonau Masnach Cyngor Gwynedd wedi cynnal cyrchoedd ar fusnesau manwerthu yn ardaloedd Caernarfon a Bangor gan feddiannu symiau mawr o gynhyrchion tybaco anghyfreithlon. Cefnogwyd y cyrchoedd gan Heddlu Gogledd Cymru.

Roedd y nwyddau a atafaelwyd rhag eu gwerthu yn cynnwys sigaréts, tybaco rholio, a llawer iawn o gynhyrchion anadlu nicotin i’w defnyddio unwaith (vapes). Amcangyfrifir bod cyfanswm gwerth manwerthu'r atafaeliadau yn fwy na £32,000.

Cefnogwyd yr ymgyrch gan dîm cŵn chwilio a ddarganfuwyd sigaréts anghyfreithlon wedi eu cuddio yn y siopau. Bydd tîm Safonau Masnach Cyngor Gwynedd yn ymchwilio i berchnogion y busnesau a bydd camau gweithredu ffurfiol yn cael eu cymryd yn eu herbyn lle bo'n briodol.

Dywedodd y Cynghorydd Dafydd Meurig, Aelod Cabinet Amgylchedd Cyngor Gwynedd:

“Dyma swmp o nwyddau anghyfreithlon wedi eu meddiannu gan ein swyddogion ac mae’n enghraifft bwysig o gydweithio rhwng Safonau Masnach a Heddlu Gogledd Cymru.

“Nid ydym yn goddef gwerthu cynhyrchion tybaco peryglus ac anghyfreithlon yma yng Ngwynedd.

“Mae ysmygwyr yn rhoi eu bywydau mewn hyd yn oed yn fwy o berygl drwy ysmygu cynhyrchion tybaco anghyfreithlon oherwydd y llu o gynhwysion ychwanegol sydd i’w cael ynddynt.

“Rydym yn gobeithio bydd hyn yn atgoffa pobl na fydd gwasanaethau’r Cyngor yn eistedd yn ôl tra bod y cyhoedd yn cael eu rhoi mewn perygl. Byddwn yn parhau i ganfod a dinistrio unrhyw gynhyrchion tybaco anghyfreithlon y byddwn yn dod o hyd iddynt, a byddwn hefyd yn gwthio am ddirwyon mawr i’r rhai sy’n ymwneud â gwerthu’r cynhyrchion hyn.

“Rydym yn annog unrhyw un sydd â gwybodaeth am werthu neu storio tybaco anghyfreithlon i roi gwybod i ni yn gyfrinachol naill drwy ffonio 01766 771000 neu e-bostio safmas@gwynedd.llyw.cymru