Teyrnged i'r diweddar Gynghorydd Rob Triggs

Dyddiad: 02/06/2025

Mae Cyngor Gwynedd wedi talu teyrnged i’r diweddar Gynghorydd Rob Triggs, Aelod dros ward Abermaw, a fu farw dros y penwythnos.

Yn gynghorydd sir ers 2022, bu hefyd yn aelod o Gyngor Tref Abermaw ers 13 mlynedd ac yn faer y dref ddwy waith.  

Dywedodd y Cynghorydd Ioan Thomas, Cadeirydd Cyngor Gwynedd: “Gyda chalon drom y clywsom am farwolaeth y Cynghorydd Rob Triggs. Roedd Rob yn ŵr addfwyn iawn ac yn ffrind da i lawer. 

“Cyn cael ei ethol yn gynghorydd, bu Rob yn gweithio gyda Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru am 35 o flynyddoedd. Roedd yn parhau i fod yn weithgar yn y maes hwn drwy fod yn aelod o Awdurdod Tân ac Achub Gogledd Cymru.

“Byddwn yn cofio amdano fel cynghorydd gweithgar oedd bob amser eisiau’r gorau i Bermo.  Dyna lle oedd ei galon ac roedd wedi bod yn rhan o nifer o brosiectau dros y blynyddoedd.  

“Roedd y môr yn ei waed – roedd wrth ei fodd yn hwylio, ac wedi gwneud hynny trwy ei fywyd a bu’n aelod o’r criw bad achub am flynyddoedd.

“Estynnwn ein cydymdeimlad dwysaf i’w wraig Tina, ei blant Kane a Kes a'i dad ar yr adeg anodd hwn.”