Mynd i'r afael â phroblem gwm cnoi ar strydoedd Gwynedd
Dyddiad: 24/06/2025
Dros yr wythnosau nesaf bydd Cyngor Gwynedd yn glanhau hen gwm cnoi oddi ar balmentydd a strydoedd y sir, gan helpu i wneud ein cymunedau yn lanach a brafiach, diolch i grant gan fudiad cenedlaethol.
Mae gwm cnoi yn gallu achosi staeniau amlwg ar ein strydoedd a phalmentydd sy’n anodd iawn i’w gwaredu. Diolch i grant o £26,752 gan y ‘Chewing Gum Task Force’ mae Cyngor Gwynedd wedi gallu prynu peiriant stêm arbenigol newydd i fynd i’r afael â’r broblem a bydd y Timau Tacluso Ardal Ni i’w gweld ar draws cymunedau’r sir yn ei ddefnyddio.
Mae’r Cyngor yn un o 52 awdurdod lleol ledled y Deyrnas Unedig sydd wedi llwyddo i sicrhau cyllid gan y Chewing Gum Task Force i fynd i’r afael â’r broblem o gwm ar ein palmentydd. Dyma’r trydydd flwyddyn yn olynol i Gyngor Gwynedd ddenu arian gan y cynllun, sy’n cael ei weinyddu gan elusen annibynnol Keep Britain Tidy.
Sefydlwyd y tasglu gan DEFRA (Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig Llywodraeth y DU), ac mae’r cynllun yn dod â rhai o gynhyrchwyr gwm cnoi mwyaf y wlad ynghyd mewn partneriaeth i gael gwared ar sbwriel gwm cnoi o strydoedd y DU a hefyd i atal sbwriel yn y dyfodol.
Dywedodd y Cynghorydd June Jones, Aelod Cabinet Priffyrdd, Peirianneg ac Ymgynghoriaeth Gwynedd, Cyngor Gwynedd:
“Mae gwm cnoi sy’n cael ei daflu’n ddiofal yn fater sy’n cael ei godi o hyd gan drigolion y sir, felly mae’n newyddion da ein bod wedi llwyddo i brynu offer arbenigol i fynd i’r afael a’r broblem.
“Rydym yn ddiolchgar i’r Chewing Gum Task Force am eu buddsoddiad, a gobeithio bydd y gwaith fydd yn digwydd dros yr wythnosau a’r misoedd nesaf gan y Timau Tacluso yn dod a gwedd newydd i balmentydd a strydoedd Gwynedd.”
Ychwanegodd Steven Edwards, Rheolwr Edrychiad Stryd, Cyngor Gwynedd:
“Yn anffodus, bydd llawer o bobl Gwynedd wedi cael y profiad o gael gwm cnoi wedi ei ollwng gan rywun arall yn glynu yn ein hesgidiau neu ddillad, ac yn ei gario i fewn i’w cartref, i’r ysgol neu weithle. Dyna pam rydym yn gweithio’n galed i addysgu pobl i beidio taflu’r gwm yn ddi-hid yn y lle cyntaf.
“Mae’n bwysig cofio hefyd bod gwaredu gwm cnoi mewn ffordd anghyfrifol yn achosi niwed i’n hamgylchedd, ac yn cymryd blynyddoedd i ddadelfennu’n naturiol, sy’n cynyddu pwysau a chostau glanhau ar y Cyngor.
“Fel rhan o’r prosiect hwn rydym yn annog pobl leol i helpu’r achos; trwy godi ymwybyddiaeth o’r ymgyrch ar ffurf arwyddion, a chyhoeddi negeseuon ar ein cyfrifon cyfryngau cymdeithasol sy’n annog defnyddwyr i roi eu gwm yn y bin wedi iddynt orffen ag ef, fydd yn helpu i gadw strydoedd Gwynedd yn lân ac yn daclus.”
Mae Timau Tacluso Ardal Ni yn gweithio ar draws holl gymunedau Gwynedd, yn mynd i’r afael a’r tasgau bychan ond pwysig er mwyn gwella’r amgylchedd leol. Os hoffech i un o’r timau ymweld â’ch cymuned chi, siaradwch gyda’ch Cynghorydd Sir lleol.