Adeilad Gwesty'r Corbett Arms, Tywyn – diweddariad

Dyddiad: 03/06/2025

Mae Cyngor Gwynedd wedi bod yn cydweithio efo nifer o bartneriaid dros y misoedd diwethaf yn rheoli a gweithredu’r ymateb i gyflwr adeilad y Corbett Arms yn Nhywyn.

Mae cyflwr yr adeilad rhestredig Gradd II wedi bod y destun pryder difrifol, gyda rhannau o’r strwythur wedi cwympo ers dechrau’r flwyddyn.

O ganlyniad i'r pryder am gwymp arall a'r angen i fod mewn sefyllfa i gymryd camau brys i ddiogelu iechyd a diogelwch y cyhoedd, comisiynodd y Cyngor gwmni arbenigol i godi sgaffaldiau ar hyd Stryd Maengwyn a rhan o Sgwâr Corbett a gwneud gwaith paratoi o flaen llaw ar y safle ar gyfer lleoli peiriannau arbenigol. Golyga hyn y byddem yn gallu ymateb ar unwaith os oes angen gwaith brys pellach oherwydd cwymp arall neu dystiolaeth sy'n deillio o'r gwaith monitro parhaus.

Yn y cyfamser, oherwydd cyflwr yr adeilad a phryder am ddiogelwch y cyhoedd, mae’r Cyngor bellach wedi cyflwyno cais am Ganiatâd Adeilad Rhestredig (LBC) ar gyfer gwaith dad-adeiladu a dymchwel rhannol yr adeilad yn raddol (parthau un i bump o’r strwythur), ynghyd â gwaith cynhaliaeth sydd ei angen i sefydlogi’r strwythur sy’n weddill.

Yn dilyn trafodaethau gyda Cadw, gan mai cais ar gyfer dad-adeiladu a dymchwel rhannol adeilad rhestredig Gradd II y Corbett Arms sydd yn cael ei gyflwyno, bydd y cais yn cael ei benderfynu gan y Cyngor.

Yn unol â’r drefn arferol ar gyfer cais am ganiatâd adeilad rhestredig (LBC), mae modd i’r cyhoedd a rhanddeiliaid gyflwyno sylwadau yn ystod y cyfnod ymgynghori fydd ar agor tan 20 Mehefin 2025. Mae manylion llawn y cais i’w gweld yma.

Disgwylir y bydd y cais yn cael ei benderfynu yn fuan wedi hynny gan Bwyllgor Cynllunio’r Cyngor.

Yn y cyfamser, bydd gwaith monitro ar gyflwr yr adeilad yn parhau er sicrhau diogelwch y cyhoedd.