Siop Symudol yn ymweld â chymunedau ar draws Gwynedd

Dyddiad: 30/06/2023
Fel rhan o’r ymdrech i fynd i’r afael â’r argyfwng costau byw, ariannwyd Siop Symudol Bwydo’n dda y Cwmni Can Cook gan Iechyd Cyhoeddus Cymru i ymweld â rhai o gymunedau Gwynedd yn ystod mis Mai a Mehefin. Yn dilyn llwyddiant y cynllun, mae Cyngor Gwynedd wedi ariannu’r siop am gyfnod o wyth wythnos ychwanegol.

Pwrpas y Siop Symudol yw dod a siop gornel i gymunedau gwledig gan gynnig nwyddau pob dydd, prydau bwyd wedi’u gwneud yn ffres a bagiau bwyd i drigolion allu eu coginio gartref ac i wneud siopau bwyd yn haws.

Bydd y Siop Symudol yn parhau i ymweld â chymunedau Botwnnog, Talysarn a Deiniolen pob dydd Iau rhwng 29 Mehefin a 17 Awst. Bydd yn ymweld â Chongl Meinciau Botwnnog 10:45am-12:15pm, Canolfan Talysarn 1:15-2:30pm a Thŷ Elidir, Deiniolen 3:15-4:30pm.

Mae’r Siop Symudol yn cynnig ystod eang o gynnyrch pob dydd gan gynnwys cig, cynnyrch llaeth, ffrwythau a llysiau, tuniau a chynnyrch wedi eu pobi. 

Dywedodd y Cynghorydd Nia Jeffreys, Dirprwy Arweinydd Cyngor Gwynedd:

“Gyda’r argyfwng costau byw yn parhau a phrisiau bwyd yn achosi pryder i nifer dw i’n annog unrhyw un sydd yn ei gweld hi’n anodd i gymryd mantais o unrhyw Gymorth Costau Byw sy’n cael ei gynnig gan y Cyngor

“Bydd prydau bwyd wedi eu gwneud yn ffres ar gael am £2 yr un, potiau brecwast am £1 yr un, bagiau cymysg o ffrwythau gwahanol am tua £2 yr un a bagiau ar gyfer y popty araf sy’n bwydo oddeutu pedwar person am £4 yr un. Rydw i’n falch o weld bydd prydau blasus a maethlon ar gael i bobl am brisiau rhesymol iawn.”

Am ragor o wybodaeth cysylltwch â croesocynnes@gwynedd.llyw.cymru neu am fwy o wybodaeth am gymorth Costau Byw yng Ngwynedd ewch draw i’r ‘siop-un-stop’ syml ar wefan y Cyngor sy’n crynhoi’r holl gymorth mae’r Cyngor yn ei gynnig mewn un lle www.gwynedd.llyw.cymru/costaubyw.