Gwynedd yn cymryd camau i reoli effaith cartrefi gwyliau

Dyddiad: 06/06/2023

Mae adroddiad i Gabinet Gwynedd ar 13 Mehefin yn gofyn am yr hawl i gychwyn proses fyddai’n galluogi’r Cyngor i reoli’r defnydd o dai fel ail gartrefi a llety gwyliau yn Ardal Awdurdod Cynllunio Lleol Gwynedd (nid yw’r ardal hyn yn cynnwys Ardal Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri).

Yn dilyn galwadau gan y Cyngor ers blynyddoedd, fe gyhoeddodd Llywodraeth Cymru gyfres o fesurau’r llynedd i fynd i’r afael ag effaith ail gartrefi a llety gwyliau tymor-byr ar gymunedau. Bellach, mae rhai o’r mesurau hynny wedi eu gweithredu.

Yn eu plith, diwygiwyd deddfwriaeth cynllunio sy’n golygu fod modd i Awdurdodau Cynllunio Lleol gyflwyno’r hyn a elwir yn Gyfarwyddyd Erthygl 4 i reoli’r defnydd o dai fel ail gartrefi a llety gwyliau.

Dywedodd y Cynghorydd Dafydd Meurig, Aelod Cabinet Amgylchedd Cyngor Gwynedd:

“Mae Cyngor Gwynedd, ynghyd â mudiadau fel Hawl i Fyw Adra a Chymdeithas yr Iaith,  wedi pwyso’n ddiflino ar Lywodraeth Cymru ers blynyddoedd i fynd i’r afael a’r cynnydd mewn cartrefi gwyliau ar draws y sir, a’r effaith mae hynny’n ei gael ar ein cymunedau.

“Cyflwynwyd ymchwil manwl gan ein Gwasanaeth Polisi Cynllunio yn amlygu’r ffaith fod ein trigolion yn cael eu prisio allan o’r farchnad dai, ac yn nodi meysydd lle byddai modd i’r Llywodraeth weithredu er mwyn cael gwell rheolaeth o’r sefyllfa.

“Yn wir, mae ymchwil diweddar wedi dangos fod 65.5% o boblogaeth Gwynedd ar gyfartaledd yn cael eu prisio allan o’r farchnad dai, gyda’r canran yn cynyddu’n sylweddol mewn ardaloedd lle mae niferoedd uwch o gartrefi gwyliau.

“Cafwyd cydnabyddiaeth o’r her gwirioneddol sy’n wynebu ein cymunedau y llynedd wrth i Lywodraeth Cymru gyhoeddi cyfres o fesurau ym maes cynllunio, trethiant a thrwyddedu i geisio cael gwell rheolaeth o’r sefyllfa.

“Ers hynny, mae’r Llywodraeth wedi diwygio’r rheoliadau cynllunio, gan gyflwyno tri dosbarth defnydd cynllunio newydd, sef prif gartref, ail gartref a llety gwyliau tymor byr.

“Mae’r adroddiad fydd yn cael ei ystyried gan Gabinet y Cyngor yn amlinellu’r sail dystiolaeth gref yn Ardal Awdurdod Cynllunio Lleol Gwynedd i ddiwygio’r system gynllunio yn lleol trwy gyflwyno’r hyn a elwir yn Gyfarwyddyd Erthygl 4.

“Byddai hyn yn ei gwneud yn ofynnol i gyflwyno cais am ganiatâd cynllunio i newid o un defnydd i’r llall ac o gymorth i’r Cyngor wrth warchod ein stoc tai a chefnogi trigolion Gwynedd i gael mynediad at dai sydd o fewn eu cyrraedd yn ein cymunedau.

“Gwynedd fyddai’r awdurdod cyntaf yng Nghymru i gyflwyno’r newid, a bydd gosod Cyfarwyddyd Erthygl 4 er mwyn rheoli’r defnydd o dai fel ail gartrefi neu lety gwyliau tymor byr yn ddigynsail.

“Rydym felly yn falch fod Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i ddarparu cefnogaeth ariannol fydd yn ein galluogi i benodi swyddogion cynllunio ychwanegol i ymdrin gyda’r llwyth gwaith ychwanegol. Os bydd y Cabinet yn cefnogi’r bwriad, byddwn yn edrych i hysbysebu swyddi yn y misoedd nesaf ac yn hyrwyddo’r cyfleoedd cyffrous yma maes o law.”

Os bydd y Cabinet yn cydsynio, bydd y Cyngor wedyn yn gosod rhybudd o’r Cyfarwyddyd Erthygl 4, ac yn cynnal cyfnod o ymgysylltu cyhoeddus ar y bwriad.

Mae rhagor o fanylion am y Cyfarwyddyd Erthygl 4 a’r goblygiadau o gyflwyno’r newid i’w weld ar www.gwynedd.llyw.cymru/erthygl4