Cyngor Gwynedd yn diogelu Hirael rhag llifogydd arfordirol

Dyddiad: 02/06/2023
Cynhelir gwaith sylweddol i liniaru rhag perygl llifogydd yn ardal Hirael o Fangor, a fydd o fudd i'r gymuned gyfan.

 

Bydd y prosiect, sy’n cael ei ariannu gan Gyngor Gwynedd a Llywodraeth Cymru, yn dechrau ym mis Mehefin, gyda’r nod o’i gwblhau ymhen 10 mis.

 

Bwriad y gwaith yw diogelu ardal Hirael rhag llifogydd arfordirol – sefyllfa sy'n dwysau wrth i lefel y môr godi oherwydd newid hinsawdd. Bydd y prosiect yn diogelu 194 eiddo preswyl a busnes rhag y môr yn gorlifo yn ardal Hirael isaf.

 

Bydd Adran YGC y Cyngor yn rheoli’r prosiect ac yn darparu cymorth dylunio. Penodwyd cwmni Griffiths Construction i wneud y gwaith ar y safle.

 

Dywedodd y Gweinidog Newid Hinsawdd Llywodraeth Cymru, Julie James: "Wrth i ni fynd i'r afael â'r argyfwng hinsawdd, rwy'n falch o fod yn darparu 85% o'r cyllid i Gyngor Gwynedd ar gyfer y gwaith hwn drwy ein Rhaglen Rheoli Risg Arfordirol.

 

"Rhaid i gymunedau arfordirol addasu wrth i lefelau'r môr godi, bydd y cynllun hwn yn helpu i wneud hynny, trwy wella amddiffynfeydd llifogydd ac erydu arfordirol i 194 eiddo yn ardal Hirael ym Mangor."

 

Dywedodd y Cynghorydd Berwyn Parry Jones, Aelod Cabinet Cyngor Gwynedd dros yr Adran Priffyrdd, Peirianneg ac Ymgynghoriaeth: “Mae’r buddsoddiad hwn mewn amddiffynfeydd llifogydd yn newyddion da i’r gymuned leol gan y bydd cartrefi a busnesau yn cael eu diogelu i’r dyfodol. Mae lefel y môr yn codi yn broblem wirioneddol i ardaloedd arfordirol fel Gwynedd ac rwy’n falch o weld y gwaith yma’n dechrau.

 

“Yn ogystal â gwella amddiffynfeydd rhag llifogydd, bydd y gwaith yn gwella edrychiad cyffredinol Hirael ac yn gwella adnoddau i gerddwyr a beicwyr. Mae Llwybr Arfordir Cymru a’r Llwybr Beicio Cenedlaethol dafliad carreg o Hirael felly mae’r prosiect hwn yn gyfle gwych i wella cysylltiadau â’r ddau atyniad pwysig yma, gyda llwybr beic newydd yn rhedeg trwy ymyl maes parcio gorllewinol Lôn Glan Môr.

 

“Bydd y gwaith yn achosi rhywfaint o niwsans dros dro i drigolion a busnesau lleol gyda rhai ffyrdd a meysydd parcio ar gau ar adegau a bydd elfennau o’r gwaith yn gallu bod yn swnllyd. Mae’n ddrwg iawn gen i am yr anghyfleustra yma ac rwy’n diolch i bobl ymlaen llaw am eu hamynedd. Bydd pob ymdrech yn cael ei wneud i liniaru’r aflonyddwch gymaint ag y gallwn.”

 

Bydd dargyfeiriadau dros dro yn eu lle ar lwybrau troed a llwybrau beicio, a bydd Ffordd Glandŵr ar gau dros dro. Bydd maes parcio dwyreiniol Lôn Glan Môr ar gau drwy gydol y gwaith a rhan o faes parcio gorllewinol Lôn Glan Môr hefyd ar gau am gyfnod.

 

Am fwy o wybodaeth a diweddariadau ar y prosiect, ewch i https://hirael.ygc.cymru/

 

 

Nodiadau

Bydd mesurau amgylcheddol llym yn cael eu dilyn drwy gydol y broses adeiladu a chafwyd trwydded forol ar gyfer y gwaith gan Cyfoeth Naturiol Cymru.