Cyngor Gwynedd yn cadarnhau penodiad Crwner newydd

Dyddiad: 26/06/2023
Kate-Robertson

Mae’n bleser gan Gyngor Gwynedd gyhoeddi penodiad Kate Robertson (Sutherland gynt) fel Uwch Grwner Ei Mawrhydi ar gyfer Gogledd Orllewin Cymru, fydd yn gwasanaethu siroedd Gwynedd a Môn.

Mae Kate Robertson wedi bod yn gwasanaethu fel Uwch Grwner Dros Dro ers mis Rhagfyr 2020, yn dilyn ymddeoliad Dewi Pritchard Jones. Daw â chyfoeth o brofiad a chysylltiad dwfn â’r gymuned leol gyda hi.

Yn ogystal, mae ei phenodiad yn garreg filltir arwyddocaol fel y siaradwr Cymraeg fenywaidd gyntaf i ymgymryd â rôl Uwch Grwner yng Nghymru.

Gyda chefndir mewn cyfraith ymgyfreitha, daw Kate Robertson â ystod eang o wybodaeth ac arbenigedd i'r swydd. Cafodd ei geni a'i magu yng Ngogledd Cymru, cyn astudio'r gyfraith (LLB) ym Mhrifysgol Caerlŷr a Choleg y Gyfraith yn Guildford ac yna hyfforddi yn Hampshire. Ar ôl dychwelyd i ogledd Gymru, bu’n gweithio mewn cwmni cyfreithiol lleol ble daeth i fod yn un o’r cyfarwyddwyr benywaidd cyntaf.

Mae profiad proffesiynol Kate Robertson yn ymestyn y tu hwnt i’w rôl fel cyfreithiwr a chrwner wrth iddi ddarparu hyfforddiant ac arbenigedd i sefydliadau fel y GIG, meddygon teulu a’r Heddlu. Mae hi wedi cyhoeddi sawl Adroddiadau Atal Marwolaethau, gan gyfrannu at wella adrannau’r llywodraeth, y GIG, a chynghorau lleol yn eu hymdrechion i atal digwyddiadau trasig.

Mae Kate Robertson yn gwasanaethu fel aelod o Bwyllgor Sefydlog yr Arglwydd Ganghellor ar yr Iaith Gymraeg a’r Grŵp Adolygu Gwenwyn Cyffuriau Angheuol. Ar ben hynny, mae’n gadeirydd cyrff llywodraethu dwy ysgol.

Dywedodd Kate Robertson: “Mae’n anrhydedd cael fy mhenodi i’r rôl arwyddocaol hon, ac edrychaf ymlaen at wasanaethu’r rhanbarth. Rwy’n dychmygu na fydd y rhan fwyaf o bobl byth yn dod i gysylltiad â Swyddfa’r Crwner, ond mae’n parhau i fod yn rôl hollbwysig o fewn y farnwriaeth. Rwy’n gobeithio dod â’m profiad o rolau cyfreithiol blaenorol i’r swydd hon o fewn gwasanaethau cyhoeddus.

“Hoffwn dalu teyrnged i’m rhagflaenydd, Dewi Pritchard Jones, a wasanaethodd y gymuned hon am gymaint o flynyddoedd.”

Ychwanegodd Dafydd Gibbard, Prif Weithredwr Cyngor Gwynedd: “Ar ran y Cyngor, hoffwn longyfarch Kate ar ei phenodiad yn Uwch Grwner Ei Mawrhydi ar gyfer Gogledd Orllewin Cymru.

“Gyda’i chysylltiadau lleol, profiad helaeth, ac arwyddocâd hanesyddol bod y Gymraes gyntaf i ddal y swydd hon, gwn y bydd yn parhau i wasanaethu’r gymuned gydag ymroddiad a thegwch.”