Cyfle i ddweud eich dweud ar Amcanion Cydraddoldeb Cyngor Gwynedd

Dyddiad: 26/06/2023
Mae Cyngor Gwynedd eisiau i bobl leol gymryd y cyfle i roi eu barn ar ei Amcanion Cydraddoldeb, fydd o gymorth i sicrhau fod eu polisïau a gweithdrefnau’n parhau i fod mor dêg a phosib i’r dyfodol.

Mae’r holiadur ar gael hyd nes diwrnod diwethaf mis Gorffennaf ac mae modd ei gwblhau ar-lein neu ar bapur a’i anfon yn ôl drwy’r post.

Yn ôl Deddf Cydraddoldeb 2010, mae’n rhaid i’r Cyngor gael Cynllun Cydraddoldeb Strategol mewn lle, sy’n arwain gwasanaethau, polisïau a’r ffordd mae’r Cyngor yn gweithredu o ddydd i ddydd. Yr Amcanion Cydraddoldeb yw sylfaen y cynllun, a bydd y Cyngor yn edrych arnynt eto pob pedair blynedd.

Dywedodd y Cynghorydd Menna Trenholme, Aelod Cabinet Cyngor Gwynedd sy’n gyfrifol am faterion Cydraddoldeb: “Mae hi rŵan yn amser i ni feddwl am ein Amcanion Cydraddoldeb ar gyfer 2024-28. Mae angen gweld os ydi’r amcanion sydd gennym ar gyfer y cyfnod presennol, sef 2020-24, angen eu newid neu ychwanegu atynt.

 

“Rydym yn gofyn i bobl ddarllen y pump amcan yma ac ystyried os ydych chi’n meddwl fod eisiau i ni eu cadw’r fel ag y maent, cadw rhai ohonyn nhw, neu defnyddio rhai newydd ar gyfer y Cynllun Cydraddoldeb 2024-28.”

 

Ychwanegodd y Cynghorydd Menna Trenholme: “Mae materion cydraddoldeb yn berthnasol i bawb – mae gan bob un ohonom oedran, credoau, rhywioldeb a phob math o nodweddion eraill sy’n effeithio ar sut rydym yn byw ein bywydau.

 

“Drwy gymryd y cyfle yma i ddweud eich dweud, byddwch yn helpu i sicrhau fod y Cyngor yn gallu ystyried y materion hyn wrth gynllunio gwasanaethau ac adnoddau i’r dyfodol.

 

“Bydd yr atebion rydym yn eu derbyn o’r holiadur – yn ogystal a data o wahanol lefydd, canllawiau Llywodraeth Cymru a chynlluniau eraill y Cyngor – yn helpu i siapio Cynllun Cydraddoldeb Cyngor Gwynedd.”

 

Bydd Amcanion Cydraddoldeb Drafft yn cael eu hystyried gan Gabinet y Cyngor ac os ydynt yn cytuno, bydd cyfle pellach i’r cyhoedd roi eu barn yn yr hydref eleni. Y gobaith yw bydd Cabinet y Cyngor yn derbyn yr Amcanion Cydraddoldeb newydd yn gwanwyn 2024.

 

Gall pobl Gwynedd leisio barn mewn amryw o ffyrdd:

Mae trefniadau wedi yn cael eu gwneud gan y Cyngor i gysylltu â grwpiau cydraddoldeb lleol. Os ydych yn aelod o grŵp o’r fath ac y byddech yn hoffi i Swyddog o’r Cyngor ddod i’ch cyfarfod i egluro mwy, cysylltwch â cydraddoldeb@gwynedd.llyw.cymru / 01286 679708

 

Dyddiad cau’r holiadur yw 30 Gorffennaf, 2023.