Ymchwiliad Cyngor Gwynedd i ddioddefaint di-angen anifeiliaid

Dyddiad: 22/06/2023

Derbyniodd ffermwr o Wynedd ddedfryd o garchar wedi ei ohirio, gorchymyn i dalu mwy na £5,000 a’i ddiarddel rhag perchnogi anifeiliaid am bum mlynedd wedi iddo bledio’n euog i droseddau iechyd a lles anifeiliaid ac am fethiant i waredu gweddillion cyrff defaid.

 

Dedfrydwyd Philip Edmund Smith o Cefn Ynysoedd, Llanfaglan, Caernarfon yn Llys Ynadon Caernarfon ddydd Llun, 19 Mehefin 2023.

 

Roedd Philip Smith wedi achosi i anifeiliaid ddioddef yn ddianghenraid a methodd â chymryd camau rhesymol i ddiogelu anghenion y ddiadell.  Roedd hyn yn cynnwys yr angen i’r anifeiliaid i gael eu gwarchod rhag poen, dioddefaint, anaf a chlwyf.

 

Adroddwyd i’r llys fod tua 75% o’r 150 o ddefaid a welwyd gan swyddogion ar y fferm yn ddifrifol gloff ac yn methu rhoi pwysau ar o leiaf un droed.  Bu rhaid difa cyfanswm o 32 o ddefaid oherwydd difrifoldeb eu cloffni.

 

Yn ystod y gwrandawiad, dangoswyd casgliad o luniau i’r llys oedd yn profi pa mor ddifrifol oedd yr amodau brawychus a’r dioddefaint diangen.  Clywodd y gwrandawiad fod swyddogion wedi eu harswydo gan gyflwr yr anifeiliaid. Yn eu barn hwy, roedd y defaid yn dioddef poen yn ddiangen ac y dylai’r diffynnydd fod wedi ceisio cael cymorth milfeddygol yn llawer cynharach.

 

Bu i Swyddogion Iechyd Anifeiliaid o wasanaeth Safonau Masnach Cyngor Gwynedd a thîm milfeddygol yr Asiantaeth Iechyd Anifeiliaid a Phlanhigion ymweld â’r fferm ar sawl achlysur rhwng Gorffennaf ac Awst 2021. Tynnwyd sylw’r awdurdodau i’r mater wedi i aelod o’r cyhoedd gysylltu’n ddienw oherwydd pryder am ddefaid cloff ar dir yn Cefn Ynysoedd.

 

Bu Philip Smith yn ymddwyn yn fygythiol a sarhaus tuag at swyddogion  o wasanaeth Safonau Masnach Cyngor Gwynedd yn ystod yr ymchwiliad.

 

Yn ystod yr ymchwiliadau cychwynnol, darganfuwyd maharen diymadferth yn un o adeiladau’r fferm. Roedd y faharen yn ddifrifol gloff a’i thraed wedi pydru; roedd ganddi friwiau croen cronig difrifol a llid ar y laryncs a fuasai wedi achosi anhawster anadlu. Barn y swyddog milfeddygol oedd bod y faharen yn dioddef yn ddiangen a bod angen ei difa er mwyn atal dioddef pellach.

 

Dangosodd archwiliad post mortem fod y briwiau croen yn debygol o fod yn bresennol ers misoedd lawer ac nad oedd tystiolaeth o dorri’r carn i dynnu’r corn oedd wedi gordyfu ar y traed. 

 

Darganfuwyd fod nifer o ddefaid yn dioddef briwiau traed nad oedd modd eu gwella bellach a achoswyd gan gyflyrau y gellir bod wedi eu trin pe baent wedi cael eu hadnabod ynghynt. Roedd nifer o’r defaid hefyd yn dioddef pryfedu ac roedd ganddynt gynrhon yn eu traed. 

 

Mae Ynadon wedi diarddel Philip Smith rhag perchnogaeth, cadw, cludo a delio mewn anifeiliaid am bum mlynedd a gorchmynnwyd ef i gwblhau cwrs adsefydlu 20 awr. 

 

Yn ogystal, fe’i dedfrydwyd i 26 wythnos yn y carchar wedi’i ohirio am 18 mis am chwe trosedd o dan Adran 4 o’r Ddeddf Lles Anifeiliaid; a 12 wythnos yn y carchar wedi’i ohirio am 18 mis am ddwy drosedd o dan Adran 9 Ddeddf Lles Anifeiliaid. Mae’r dedfrydau hyn i’w cyflawni ar yr un pryd.

 

Derbyniodd Philip Smith ddirwy hefyd gan yr Ynadon o £400 am  y chwe trosedd sy’n ymwneud â Rheoliadau Sgil Gynhyrchion Anifeiliaid ac fe’i gorchmynnwyd i dalu £4,475 mewn costau a gordal dioddefwr o £128.

 

Dywedodd y Cynghorydd Dafydd Meurig, Aelod Cabinet Cyngor Gwynedd dros yr Amgylchedd: “Mae ein swyddogion Safonau Masnach yn gweithio’n agos gyda’r gymuned ffermio, drwy gyngor ac ymyrraeth , i sicrhau fod pawb yn cadw at safonau uchel o iechyd a lles anifeiliaid.   

 

“Hoffwn bwysleisio fod y mwyafrif helaeth o ffermydd Gwynedd yn cyrraedd y safonau hyn, ac yn wir mae’r rhan fwyaf o ffermwyr yn mynd tu hwnt i’r hyn sy’n ddisgwyliedig i sicrhau lles eu hanifeiliaid.

 

“Fodd bynnag, lle mae diffyg cydymffurfio – fel yn yr achos hwn – nid oes gan y Cyngor unrhyw ddewis ond cymryd y camau gorfodi angenrheidiol.

 

“Hoffwn ddiolch i’r swyddogion am eu gwaith yn enwedig felly mewn amgylchiadau trist a thrallodus, ac i’r Ynadon am eu proffesiynoldeb wrth ymdrin ar achos hwn.

 

“Hoffwn hefyd ddiolch i aelodau’r cyhoedd am fod yn sylwgar. Byddwn yn annog unrhyw un sydd a phryderon am les anifail i roi gwybod i ni fel y gellir cymryd y camau priodol.”

 

I gael cyngor ar les anifeiliaid, cadw anifeiliaid fferm neu i adrodd ar broblem galwch Wasanaethau Safonau Masnach Cyngor Gwynedd ar: 01766 771000, neu e-bost: safmas@gwynedd.llyw.cymru