Neuadd Dwyfor yn ymgeisio am Wobr Sinema'r Flwyddyn BIFA
Dyddiad: 04/09/2025
Mae Neuadd Dwyfor, Pwllheli yn galw ar gwsmeriaid a’r gymuned leol i bleidleisio wrth iddynt ymgeisio i sicrhau enwebiad ar gyfer gwobr gyntaf Sinema’r Flwyddyn gan Wobrau Ffilm Annibynnol Prydain (British Independent Film Award’s - BIFA).
Ym mis Gorffennaf, cafodd sinemâu ledled y wlad eu gwahodd i gymryd rhan drwy esbonio pam bod eu sinema mor arbennig. Drwy gymryd rhan yn y gystadleuaeth mae Neuadd Dwyfor am dynnu sylw a dathlu’r neuadd fel canolfan gelfyddydol fywiog, ac i amlygu’r rhan allweddol mae’n ei chwarae o fewn cymuned Pwllheli ac ar draws ardal Dwyfor.
Mae’r Neuadd yn gweithio’n agos iawn gyda busnesau ac elusennau lleol i ddatblygu rhaglen digwyddiadau sy’n cefnogi’r angen yn lleol, ac yn sicrhau bod y celfyddydau’n hygyrch ac yn berthnasol i bawb yn y gymuned leol.
Mae pump sinema Gymreig wedi rhoi eu henwau ymlaen i BIFA, a dim ond dwy yng Ngwynedd sef Neuadd Dwyfor a’r Magic Lantern yn Nhywyn. Mae’r cyfnod pleidleisio ar gyfer cynulleidfa’r sinema bellach ar agor ac yn cau ar 22 Medi. Bydd panel arbennig yn dewis yr enwebeion, gan ystyried pleidleisiau’r gynulleidfa a chyflwyniadau gan y sinemâu.
Bydd pum enwebai yn cael eu cyhoeddi ar 3 Tachwedd, ynghyd â gweddill enwebeion Gwobrau BIFA 2025.Yn dilyn hyn, bydd cyfle pellach i gynulleidfa’r sinema bleidleisio ac i benderfynu ar yr enillydd. Bydd yr enillydd yn cael ei ddatgelu yn seremoni BIFA ar ddydd Sul, 30 Tachwedd.
Dywedodd y Cynghorydd Medwyn Hughes, Aelod Cabinet dros Economi a Chymuned, Cyngor Gwynedd:
“Mae Neuadd Dwyfor yn enghraifft dda o sinema annibynnol, gyda phwyslais arbennig ar gynyrchiadau sy’n dathlu diwylliant a threftadaeth Gymreig. O ffilmiau poblogaidd i glasuron, mae’r sinema yn croesawu cynulleidfa ymroddedig ac amrywiol.
“Rwyf yn falch o’r cydweithio sy’n digwydd gyda busnesau lleol i gyd-hyrwyddo ac ein bod yn cefnogi busnesau annibynnol ym Mhwllheli — gan gryfhau’r cysylltiad pwysig rhwng diwylliant a chymuned.
“Dwi’n dymuno pob llwyddiant i Neuadd Dwyfor wrth iddynt ymgeisio ar gyfer Gwobr Sinema’r Flwyddyn BIFA, a byddai’n wych gweld trigolion Gwynedd yn eu cefnogi. Bydd eich cefnogaeth yn galluogi Neuadd Dwyfor i barhau i ddod â ffilmiau annibynnol i’r gymuned wledig yng Ngwynedd, ac i gadw diwylliant sinema’n fyw ym Mhwllheli.”
Ychwanegodd cyfarwyddwyr BIFA, Amy Gustin a Deena Wallace:
“Rydym yn hynod gyffrous i gyhoeddi ein gwobr gynulleidfa gyntaf erioed drwy’r ymgyrch hon, sy’n hyrwyddo rôl sinema mewn ffilm annibynnol — nid yn unig yr hyn rydym yn ei wylio, ond hefyd sut a ble rydym yn ei brofi. Mae sinemâu yn fannau hanfodol ar gyfer darganfod ffilmiau, mynediad a chymuned, ac rydym wrth ein bodd yn gallu eu dathlu gyda’r wobr newydd hon.”
Dywedodd Steve Hicks, Cyfarwyddwr Marchnata Kia UK Limited:
“Mae cefnogwyr ffilm yn caru dathlu eu hoff ffilmiau yn ystod tymor y gwobrau. Nawr gall sinema-gyfeillion hefyd ddathlu’r lleoliadau gorau i fwynhau’r ffilmiau hyn. Er bod ffrydio gartref yn gyfleus, does dim byd yn cymharu â phrofiad y ‘sgrin fawr’ i’r rhai sy’n awyddus i ymgolli’n llwyr yn y rhyddhau diweddaraf - yn enwedig pan fo’r sinemâu hyn mor ganolog i’w cymunedau lleol. Rydym yn gyffrous i gydweithio â Gwobrau Ffilm Annibynnol Prydain i gydnabod y sinemâu sy’n cynnig y profiadau mwyaf cofiadwy a phleserus i gefnogwyr ffilm.”
I gefnogi enwebiad Neuadd Dwyfor ewch i: www.bifa.film/coty-vote
Nodiadau
Neuadd Dwyfor
Mae Neuadd Dwyfor yn sinema, theatr a llyfrgell yng nghanol tref Pwllheli, sy’n gweithredu fel sinema ers 1912.
Mae’n rhedeg rhaglen gyfoes o ddigwyddiadau drwy gydol y flwyddyn, gan gynnwys cynyrchiadau theatr, cerddoriaeth a dawns, sinema annibynnol a chlasurol, yn ogystal â gweithdai, darlithoedd a digwyddiadau cymunedol.
Ariennir gan Gyngor Gwynedd, ac mae’n aelod o Creu Cymru, Canolfan Ffilm Cymru, ac yn rhan o gynllun tocynnau Hynt — cynllun cenedlaethol sy’n sicrhau mynediad teg i’r celfyddydau i bobl anabl, niwroamrywiol a’u cydymaith.
www.NeuaddDwyfor.cymru
Gwybodaeth gan BIFA: www.bifa.film
Mae Gwobrau Ffilm Annibynnol Prydain (BIFA) yn dathlu, hyrwyddo ac yn cefnogi talent a chreadigrwydd ym maes ffilm annibynnol Brydeinig, gyda’r nod o ddatblygu diwylliant ffilm annibynnol cyfoethog, cynhwysol a chynaliadwy yn y DU.
Wedi’i sefydlu yn 1998, mae BIFA wedi hyrwyddo’r ffilmiau mwyaf arloesol a’r gorau a ariannwyd yn annibynnol ym Mhrydain ers dros 25 mlynedd, gan weithio yng nghanol y diwydiant i feithrin talent newydd, hyrwyddo arfer teg, ac ehangu cynulleidfa fwy amrywiol ar gyfer ffilm annibynnol Brydeinig.
Rydym yn Gwmni Buddiannau Cymunedol (CIC), yn arwain adfywiad ffilm annibynnol Brydeinig, gan ddefnyddio grym creadigrwydd Prydeinig i gyfoethogi bywydau drwy ffilm annibynnol.
Noddwyr: Adrian Lester, Meera Syal, Samantha Morton
Cyn-noddwyr: David Thewlis, Ewan McGregor, Helen Mirren, James Nesbitt, Ken Loach, Michael Sheen, Michael Winterbottom, Mike Figgis, Ray Winstone, Tilda Swinton, Tom Hollander, Trudie Styler
Partneriadi BIFA
Apple Original Films / BBC Film / Champagne Taittinger / Film4 / Intermission Film / Kia / Netflix / Pinewood & Shepperton Studios / Sky Cinema / Universal Music Publishing Group
ATC / Broadsword / Casting Society / DCM / Kodak / One Hundred Shoreditch
Print.Work / ScreenUK / Spotlight / Tysers / Wiggin
Sefydlwyd gan Raindance
Ynglŷn â’r wobr:
Does dim byd tebyg i’r profiad cymunedol o wylio ffilm ar y sgrîn fawr, ac mae BIFA eisiau dathlu sinemâu eithriadol ledled y wlad sydd wrth galon eu cymunedau — gan ddod â chynulleidfaoedd ynghyd ac amlygu ffilmiau annibynnol.
Mae Kia wedi bod yn hyrwyddo sinema annibynnol a’u cymunedau ers 2022. Fel cefnogwr balch o sinema annibynnol a dangosiadau ffilmiau annibynnol, fel BIFA, mae Kia yn dathlu straeon amrywiol a grymus sy’n cyrraedd y sgrîn fawr. Dyna pam, eleni, mae Kia yn falch o godi eu hymrwymiad i sinemâu annibynnol drwy bartneru â BIFA ar gyfer gwobr gyntaf Sinema’r Flwyddyn.