Lansio Siop un Stop gwasanaethau tai Cyngor Gwynedd
Dyddiad: 03/09/2025
O 15 Medi 2025 ymlaen, bydd trigolion Gwynedd yn cael mynediad at wasanaeth newydd gyda lansiad Siop un Stop tai Cyngor Gwynedd. Nod y gwasanaeth yw darparu cymorth clir a chyflym, ynghyd â gofal cwsmer o’r safon uchaf, i unrhyw un sy’n ceisio cyngor neu gefnogaeth ar faterion tai.
Bydd y Siop un Stop yn cynnig 1 pwynt cyswllt canolog i bob ymholiad. Bydd trigolion yn gallu cysylltu drwy 1 rhif ffôn ac 1 cyfeiriad e-bost, a bydd pob achos yn cael ei reoli gan un swyddog o’r dechrau i’r diwedd. Bydd tudalen gwefan tai Cyngor Gwynedd yn haws i ddefnyddwyr ddod o hyd i wybodaeth, a bydd porth hunanwasanaeth newydd ar gael yn yr wythnosau canlynol i drigolion reoli eu cais tŷ cymdeithasol.
Mae gwasanaethau tai Cyngor Gwynedd yn cynnwys y canlynol:
- Opsiynau tai a cheisiadau tai cymdeithasol
- Cyngor ynni
- Digartrefedd
- Grantiau a benthyciadau i adnewyddu a phrynu tai
- Lesu eiddo i’r Cyngor
- Trwyddedu eiddo
- Cynlluniau datblygu tai’r Cyngor
- Gwybodaeth a chefnogaeth gyffredinol, a llawer mwy.
Bydd y swyddogion rheng flaen i gyd â dealltwriaeth o faterion y maes tai ac yn gallu cynorthwyo'r cwsmer gyda’u hymholiad a chynnig cyngor os nad yw’r datrysiad yn eistedd gyda’r Cyngor.
Mae’r Siop Un Stop yn rhan ganolog o Gynllun Gweithredu Tai gwerth £190 miliwn Cyngor Gwynedd, sydd wedi’i greu i sicrhau bod pobl y sir yn cael mynediad at gartrefi addas, fforddiadwy ac o safon uchel. Mae’r cynllun yn cynnwys amrywiaeth o brosiectau, gan gynnwys codi mwy o dai fforddiadwy, prynu eiddo i’w rhentu i bobl leol, dod â thai gwag yn ôl i ddefnydd, a datblygu llety â chefnogaeth ar gyfer pobl sy’n profi digartrefedd.
Dywedodd y Cynghorydd Paul Rowlinson, Aelod Cabinet Tai ac Eiddo Cyngor Gwynedd:
“Mae’r Siop Un Stop yn gam pwysig ymlaen yn y ffordd rydym yn darparu gwasanaethau tai. Yn hytrach na gorfod cael eu cyfeirio o un fudiad a thîm i’r llall, bydd trigolion yn cael atebion cyflymach a mwy personol drwy un tîm sy’n deall eu sefyllfa. Mae hyn yn sicrhau gwasanaeth mwy clir ac effeithlon, ac yn lleihau’r straen ar bobl sy’n aml eisoes mewn sefyllfaoedd heriol.”
“Yn y pen draw, ein nod yw rhoi cefnogaeth uniongyrchol ac ymarferol i bobl Gwynedd sydd mewn angen tai, boed hynny’n gymorth gyda chais am dŷ cymdeithasol, cyngor ar gostau ynni neu help rhag colli cartref. Mae’r Siop un Stop yn gam cadarnhaol iawn i sicrhau gwasanaeth sy’n gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i’n cymunedau.”
O 15 Medi ymlaen, gallwch gysylltu â gwasanaethau tai Cyngor Gwynedd gan ddefnyddio'r manylion canlynol:
Ymholiad ar-lein (Rhaid creu cyfrif os nad oes gennych chi un yn barod)
01286 685100
tai@gwynedd.llyw.cymru