Cynllun Prynu i Osod Cyngor Gwynedd yn cynnig allwedd i'r dyfodol i gwpl ifanc
Dyddiad: 23/09/2025
Mae cynllun Cyngor Gwynedd i brynu ac uwchraddio tai er mwyn eu gosod i bobl leol eisoes yn newid bywydau trigolion y sir, gan gynnwys cwpl ifanc ym Mhorthmadog sydd bellach wedi derbyn goriadau i gartref fforddiadwy yn eu cymuned eu hunain.
Ers 2021, mae’r Cyngor wedi bod yn gweithredu’r cynllun Prynu i Osod, sy’n rhan ganolog o Gynllun Gweithredu Tai gwerth £190 miliwn. Y nod yw prynu 100 eiddo trwy’r sir a’u gosod i bobl leol er mwyn mynd i’r afael â phrinder tai rhent fforddiadwy yng Ngwynedd.
Trwy’r cynllun, hyd yma mae:
- 50 eiddo wedi cael eu prynu gan Gyngor Gwynedd
- 20o’r rhain wedi cael eu gosod i bobl leol
- Y gweddill yn y broses o gael eu hadnewyddu i safonau priodol cyn cael eu gosod.
Mae’r eiddo hyn yn cynnwys tai mewn ardaloedd lle mae llawer iawn o bobl Gwynedd yn cael trafferth dod o hyd i dai fforddiadwy, fel cymunedau Aberdyfi, Llanberis, Cricieth, ac ardal Pen Llŷn.
Mae’r Cyngor yn cydweithio gydag Adra ar y cynllun hwn, gydag Adra yn cymryd cyfrifoldeb am reoli’r eiddo ar ran y Cyngor. Mae'r cartrefi ar gael i unigolion sy'n bodloni meini prawf Tai Teg. I’r rhai sydd â diddordeb, cofrestru gyda Tai Teg yw’r cam cyntaf i wneud cais am un o’r tai.
Un o’r rhai sydd wedi elwa yw Ffion Morris a’i phartner Rhodri, sydd bellach yn byw mewn tŷ drwy’r cynllun ym Mhorthmadog:
“Fel cwpl lleol, un o Benrhyndeudraeth ac un o Borthmadog, roeddem wedi bod yn chwilio am gartref ers tro ond yn cael trafferth dod o hyd i le addas i rentu yn yr ardal.
“Mae symud i’n cartref newydd drwy gynllun Prynu i Osod y Cyngor yn teimlo fel breuddwyd ac yn gyfle anhygoel i ni.
“Rydym yn gweld dyfodol disglair yma yn ein tŷ newydd ac yn ddiolchgar dros ben i’r Cyngor, Tai Teg ac Adra am ein cefnogi drwy’r broses.”
Dywedodd y Cynghorydd Paul Rowlinson, Aelod Cabinet Tai ac Eiddo Cyngor Gwynedd:
“Roedd yn fraint cael trosglwyddo’r goriadau i Ffion a Rhodri o flaen eu cartref newydd ym Mhorthmadog – cwpl ifanc, lleol sydd erbyn hyn yn gallu byw mewn tŷ o safon o fewn eu cymuned.
“A dyma ni’r 20fed tŷ sydd wedi cael ei osod gan y Cyngor, rydym wedi buddsoddi’n sylweddol yn ein cynlluniau tai fforddiadwy canolraddol, cynlluniau sy’n pontio’r bwlch i’r rheini sydd ddim yn gymwys am dŷ cymdeithasol, ond sydd efallai yn ei chael hi’n anodd fforddio ar y farchnad agored. Yn ogystal â’r cynllun Prynu i Osod, mae gan y Cyngor gynlluniau canolraddol eraill fel Tŷ Gwynedd, i adeiladu a gwerthu neu rentu tai i bobl leol, a’r Cynllun Prynu Cartref, sef benthyciad ecwiti i helpu pobl i brynu tŷ. Os yw’r cynlluniau hyn o ddiddordeb i chi, cysylltwch â ni.
“Rydym yn gwybod bod yr angen am dai fforddiadwy yn dal i fod yn enfawr yng Ngwynedd, ond mae’r enghraifft yma’n dangos sut mae ein cynlluniau tai yn gwneud gwahaniaeth go iawn i fywydau pobl Gwynedd. Dymunaf bob hapusrwydd i Ffion a Rhodri yn eu cartref newydd.”
Dywedodd Siân Gwenllian AS, llefarydd Plaid Cymru dros faterion tai a chynllunio:
“Dwi’n falch bod Gwynedd yn arwain y gad yng Nghymru drwy ddefnyddio’r pwerau radical a enillwyd drwy Gytundeb Cydweithio Plaid Cymru â Llywodraeth Cymru i gymryd camau go iawn i fynd i’r afael â’r argyfwng ail gartrefi.
“Mae’n galonogol gweld bod y refeniw sy’n cael ei godi bellach yn cael ei ail-fuddsoddi mewn cynlluniau sy’n rhoi cyfle i bobl leol - yn enwedig pobl ifanc - i fyw yn eu cymunedau eu hunain.”
I gofrestru gyda Tai Teg ewch i: Hafan | Tai Teg