Cyngor Gwynedd i apelio dyfarniad Cyfarwyddyd Erthygl 4 yr Uchel Lys
Dyddiad: 24/09/2025
Mae Cyngor Gwynedd yn cychwyn ar broses apêl yn dilyn dyfarniad Uchel Lys yn ymwneud â Chyfarwyddyd Erthygl 4 yn ardal Awdurdod Cynllunio Lleol Gwynedd.
Cyflwynodd Cyngor Gwynedd y Cyfarwyddyd Erthygl 4 fel modd o reoli’r defnydd o dai fel ail gartrefi a llety gwyliau.
Daeth y Barnwr i'r canlyniad fod y cais i wrthwynebu penderfyniad y Cyngor i weithredu Cyfarwyddyd erthygl 4 yn llwyddo. Bydd gwrandawiad pellach yn cael ei gynnal yn dilyn ei ddyfarniad ysgrifenedig. Yn y cyfamser, bydd y Cyfarwyddyd Erthygl 4 yn parhau mewn grym.
Dywedodd y Cynghorydd Craig ab Iago, Aelod Cabinet Amgylchedd Cyngor Gwynedd:
“Fel Cyngor, rydym wedi bod yn benderfynol o wneud popeth yn ein gallu i sicrhau fod gan bobl Gwynedd fynediad at dai addas yn eu cymunedau. I wneud hyn, rydym wedi cymryd camau rhagweithiol yn cynnwys cyflwyno Cyfarwyddyd Erthygl 4 i reoli’r nifer sylweddol o gartrefi sy’n cael eu colli i fod yn ail gartrefi neu lety gwyliau tymor-byr.
“Dangosodd ymchwil cyn cyflwyno Cyfarwyddyd Erthygl 4 fod 65% o aelwydydd Gwynedd wedi’u prisio allan o’r farchnad dai, gyda’r broblem yn hyd yn oed fwy difrifol mewn cymunedau lle mae cyfran uchel o dai gwyliau.
“Rydym yn hynod siomedig gyda’r dyfarniad, a byddwn yn bwrw ymlaen i gychwyn proses apêl er amddiffyn ein penderfyniad o gyflwyno Cyfarwyddyd Erthygl 4 yng Ngwynedd.”
Ychwanegodd y Cynghorydd Nia Jeffreys, Arweinydd Cyngor Gwynedd:
"Holl bwrpas y mesur yma ydi sicrhau tegwch i bobl Gwynedd a sicrhau dyfodol cynaliadwy ein cymunedau gan roi mwy o reolaeth i’r Cyngor a sicrhau bod penderfyniadau’n adlewyrchu anghenion lleol.
“Mae gan bawb hawl i gartref yn eu cymuned, a byddwn rwan yn bwrw ymlaen i amddiffyn ein hachos yn gadarn trwy’r broses gyfreithiol.”
NODIADAU:
Am ragor o wybodaeth am Gyfarwyddyd Erthygl 4 yn Ardal Awdurdod Cynllunio Gwynedd, ewch i: www.gwynedd.llyw.cymru/Erthygl4
Mae Llywodraeth Cymru wedi cyflwyno newidiadau arloesol i'r fframwaith cynllunio, gan roi grym i awdurdodau lleol reoli niferoedd ail gartrefi a llety gwyliau tymor byr.
Mae newidiadau i'r fframwaith cynllunio cenedlaethol wedi cyflwyno tri dosbarth defnydd newydd, sef: prif gartref, cartref eilaidd a llety tymor byr. Mae gan bob awdurdod cynllunio lleol y pŵer i benderfynu a oes angen caniatâd cynllunio i newid o un dosbarth defnydd i'r llall trwy ddatgymhwyso hawliau datblygu a ganiateir. Mae posib datgymhwyso'r hawliau hyn drwy gyflwyno Cyfarwyddyd Erthygl 4. Cyngor Gwynedd fydd yn gyfrifol am ei weithredu.
Pwrpas y Cyfarwyddyd Erthygl 4 yw diddymu’r hawliau datblygu heb yr angen am hawl cynllunio, ar gyfer y canlynol:
- Newid defnydd prif gartref (dosbarth defnydd C3) i ail gartref (dosbarth defnydd C5) neu lety gwyliau tymor byr (dosbarth defnydd C6) a defnyddiau cymysg penodol;
- Newid defnydd ail gartref (dosbarth defnydd C5) i lety gwyliau tymor byr (dosbarth defnydd C6) a defnyddiau cymysg penodol;
- Newid defnydd llety gwyliau tymor byr (dosbarth defnydd C6) i ail gartref (dosbarth defnydd C5) a defnyddiau cymysg penodol.