Gweithredu diwydiannol 11-17 Medi, 2023

Dyddiad: 08/09/2023
Mae undeb Unite wedi cyhoeddi y bydd eu haelodau yng Ngwynedd yn cymryd rhan mewn gweithredu diwydiannol rhwng ddydd Llun, 11 Medi a dydd Sul, 17 Medi dros ddyfarniadau cyflog a drafodwyd yn genedlaethol ledled y DU. 

Mae Cyngor Gwynedd yn rhagweld fod posibilrwydd y bydd hyn yn amharu ar rai gwasanaethau. Rydym yn nodi hefyd mae’n bosib na fyddwn yn gwybod llawn effaith y streic hyd nes iddi ddechrau a rydym yn gweithio’n galed i geisio lleddfu effaith y gweithredu ar bobl y sir. 

Mae’r Cyngor yn ymddiheuro am unrhyw anghyfleustra ac yn ddiolchgar o flaen llaw am amynedd trigolion lleol os na fydd rhai gwasanaethau o fewn adrannau Amgylchedd, Priffyrdd, Peirianneg a YGC yn cael eu cynnal yn ôl yr arfer.


Casgliadau gwastraff ac ailgylchu
 
Mae’n bosib y bydd casgliadau gwastraff ac ailgylchu yn cael eu heffeithio yn ystod y cyfnod yma.

Gofynnir i drigolion roi eu biniau a chartiau ailgylchu allan fel arfer ar eu diwrnodau casglu arferol (yn cynnwys bin olwyn gwyrdd/sach ddu, bin bwyd, bin olwyn gwastraff gardd, sachau melyn). Os nad yw casgliad wedi digwydd erbyn diwedd y dydd, gofynnir i bobl ddod a’u biniau a chartiau o’r man casglu gan na fydd modd cwblhau unrhyw gasgliadau sydd wedi eu methu yn ystod yr wythnos. 

Canolfannau Ailgylchu
Disgwylir i ganolfannau ailgylchu’r Cyngor fod ar agor yn ystod y cyfnod yma. Mae manylion am leoliadau, oriau agor a gwybodaeth am sut i drefnu apwyntiad ar gael ar wefan y Cyngor: www.gwynedd.llyw.cymru/CanolfannauAilgylchu. Gellir hefyd gwneud apwyntiad drwy ddefnyddio apGwynedd.

Gwasanaethau eraill
Mae’n bosib y bydd gwasanaethau eraill yn cael eu heffeithio gan y gweithredu diwydiannol, gan gynnwys gwagio biniau ar y stryd. 

Gwasanaethau fydd ddim yn cael eu heffeithio
Ni fydd gwasanaethau hanfodol eraill fel gofal, cartrefi preswyl, ysgolion, yr Amlosgfa yn cael eu heffeithio gan y gweithredu diwydiannol hyn. Bydd y gwasanaethau hyn yn gweithredu yn ôl yr arfer. 

Mae’r Cyngor hefyd wedi dod i gytundeb gyda’r Undeb y bydd gwasanaethau yn cael eu darparu mewn sefyllfa o argyfwng. 

Mwy o wybodaeth
Fel Cyngor, byddwn yn gwneud pob ymdrech i rannu unrhyw ddiweddariadau am y gwasanaethau sy’n cael eu heffeithio yn ystod yr wythnos. Bydd gwybodaeth yn cael ei gyhoeddi drwy gyfrifon Twitter/X a Facebook y Cyngor ac ar y wefan www.gwynedd.llyw.cymru.