Cyfle i gadeirio Fforwm Iaith Gwynedd

Dyddiad: 13/09/2023
Ydych chi’n chwilio am gyfle i wirfoddoli yn eich cymuned? Ydych yn daer dros ffyniant yr iaith Gymraeg yng Ngwynedd? Gallai’r rôl hon fod yn ddelfrydol ar eich cyfer!

Mae Fforwm Iaith Gwynedd yn chwilio am gadeirydd annibynnol. Bydd dyletswyddau’r swydd wirfoddol hon yn cynnwys cadeirio cyfarfodydd y fforwm a chadw cyswllt gyda chydlynwyr y fforwm rhwng pob cyfarfod.

Dylai’r sawl sy’n dal y swydd fod yn siaradwr Cymraeg, yn byw yng Ngwynedd ac yn frwdfrydig dros yr iaith.

Sefydlwyd Fforwm Iaith Gwynedd yn gynharach eleni er mwyn:

  • annog cydweithio,
  • dod â phartneriaid allweddol at ei gilydd,
  • trafod a chynllunio sut i hybu a chynyddu defnydd o’r Gymraeg yng Ngwynedd.

Am fwy o wybodaeth cysylltwch â: iaith@gwynedd.llyw.cymru a rhaid derbyn datganiadau o ddiddordeb erbyn 30 Medi, 2023.